Margaret Jones (arlunydd)
Arlunydd o Gymru oedd Margaret Jones (28 Rhagfyr 1918 – 23 Gorffennaf 2024). Roedd yn adnabyddus am ddarlunio llyfrau ar chwedlau gwerin Cymru, yn cynnwys Y Mabinogi. Cyhoeddwyd posteri o 'fap y Mabinogi' a ddaeth yn ddelweddau adnabyddus iawn yng Nghymru a thu hwnt.[1]
Margaret Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1918 Bromley |
Bu farw | 23 Gorffennaf 2024 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Margaret Dorothy yn Bromley, Swydd Caint. Fe'i magwyd yn 'oes aur' darlunio ac fe'i hysbrydolwyd gan ddarlunwyr llyfrau fel Arthur Rackham ymysg eraill. Yn ferch ifanc, darluniodd ar bapur wal, cerfiodd wyneb ar y silff tân pren, a gwnaeth sgets o ddyn yn llithro ar groen banana. Darluniodd bob dydd, thrwy ei ddyddiau ysgol yn Birmingham a Southport. Ei hoff lyfr erioed oedd cyfrol o chwedlau gwerin Iwerddon o’r 1920au.
Priododd y Cymro Basil Jones, gweinidog Presbyteraidd o Benrhiw-ceibr ger Aberdâr. Yn 1954, symudodd hi a'i theulu ifanc i Aberystwyth wedi i'w gŵr gael ei benodi’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol yn y brifysgol yno. Dysgodd y Gymraeg drwy ddarllen llyfrau plant, ac roedd yn gweld yr iaith ysgrifenedig yn haws na'r llafar.[2]
Gyrfa
golyguWedi magu ei phlant, cychwynnodd Margaret ennill ei bara menyn fel arlunydd, yn 60 oed. Symudodd y teulu o’r Buarth yn Aberystwyth i Gapel Bangor a gwnaeth stiwdio uwchben y garej.
Yn 1979, cafwyd arddangosfa o'i phaentiadau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, oedd newydd agor. Arweiniodd hyn at gomisiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddarlunio llyfr newydd o chwedlau'r Mabinogi, a addaswyd gan Gwyn Thomas. Cafodd ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran y Cyngor yn 1984.[1]
Aeth ymlaen i ddarlunio y gyfrol Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd gan Gwyn Thomas, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1988. Enillodd y llyfr wobr Gymraeg Tir na n-Og yn 1989, a dyma’r gyfrol oedd fwyaf balch ohono.[2] Enillodd wobr Tir na n-Og eto yn 1993, 2000, a 2003.[2]
Ar ôl darlunio map ar gyfer y llyfr dwyieithog Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1989, cafodd y map ei droi yn boster. Daeth y posteri yn boblogaidd iawn yng Nghymru ac fel swfenîr ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Cydweithiodd eto gyda Robin Gwyndaf yn 2007 ar Llyfr Datguddiad Ioan.
Y llyfr olaf i Margaret ei ddarlunio oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf gan Gwyn Thomas yn 2009. Dechreuodd ei golwg ddirywio'n gyflym ers 2007. Mae nifer o’i darluniau gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol – fel ei darluniau nodedig ar Owain Glyndŵr a wnaeth adeg troad y Mileniwm.
Bywyd personol
golyguRoedd yn fam i chwech o blant[3] ac yn fam-gu i'r arlunydd Seren Jones o Aberystwyth.
Treuliodd ei blynyddoedd olaf yn Llys Ardwyn, Aberystwyth. Bu farw yn ysbyty Bronglais yn 105 mlwydd oed. Cynhaliwyd angladd cyhoeddus yn y capel yr oedd yn mynychu, Eglwys St David's, Stryd y Baddon, Aberystwyth ar 20 Awst am 11yb, gyda seremoni claddu breifat yng nghapel Penllwyn, Capel Bangor.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Cofio Margaret Jones, yr arlunydd ddaeth â'r Mabinogi yn fyw". Golwg360. 2024-08-13. Cyrchwyd 2024-08-19.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Stevenson, Peter (22 Tachwedd 2019). "Margaret Jones and the Art of Visual Storytelling". www.facebook.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-19.
- ↑ 3.0 3.1 "Margaret Jones Obituary (2024) - Tindle Wales & borders". Legacy.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-19.