Margaret Nevinson
Ffeminist o dras Gymreig a anwyd yn Lloegr oedd Margaret Nevinson (née Jones; 11 Ionawr 1858 – 8 Mehefin 1932) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Margaret Nevinson | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1858, 1857 Caerlŷr |
Bu farw | 6 Awst 1932 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét |
Priod | Henry Nevinson |
Ganed Margaret Wynne Jones yn Vicarage House, Lower Church Gate, yng Nghaerlŷr ar 11 Ionawr 1858 a bu farw yn Llundain ar 8 Mehefin 1932. Bu'n briod i Henry Nevinson.[1][2][3][4]
Cymro Cymraeg o Lanbedr Pont Steffan a rheithor St Margaret's Church, Caerlŷr, oedd ei thad, Timothy Jones (c.1813–1873/4) a'i mam oedd Mary Louisa (c.1830–1888). Dysgodd ei thad Ladin a Groeg i Margaret a'i brodyr. Treuliodd gyfnod anhapus mewn eglwys Gatholig yn Rhydychen, cyn diweddu ei chyfnod addysgol ym Mharis.
Astudiodd addysg, Almaeneg a Lladin, ac yn 63 oed, yn 1882, derbyniodd ddiploma o Brifysgol St Andrews.[5]
Yr ymgyrchydd
golyguRoedd Nevinson yn un o'r swffragetiaid a adawodd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod yn 1907, pan holltwyd y mudiad yn dilyn ffrae, gan ffurfio Cynghrair Rhyddid y Menywod (Women's Freedom League (WFL)). Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r cylchgrawn WFL, The Vote, ac ysgrifennodd lawer o bamffledi pleidlais etholfraint (suffrage) gan gynnwys A History of the Suffrage Movement: 1908-1912, Ancient Suffragettes a The Spoiled Child and the Law. Nevinson oedd y fenyw gyntaf i'w gwneud yn Ynad Heddwch yn Llundain.[6]
Ymunodd Margaret â nifer o grwpiau etholfraint merched gan gynnwys WSPU. Yn Gristion ymroddedig, roedd yn aelod o Gynghrair yr Eglwys ar gyfer etholfrainth menywod, ac roedd yn llefarydd ar ran Undeb Etholfraint y Cymric (the Cymric Suffrage Union) ac roedd hefyd yn drysorydd Cynghrair Etholfraint y Menywod.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Dolennau allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://en.wikipedia.org/wiki/Margaret_Nevinson.
- ↑ Rhyw: http://www.fembio.org/biographie.php/frau/frauendatenbank?fem_id=20663. dyddiad cyrchiad: 5 Mai 2019.
- ↑ Dyddiad geni: http://www.fembio.org/biographie.php/frau/frauendatenbank?fem_id=20663. dyddiad cyrchiad: 5 Mai 2019.
- ↑ Dyddiad marw: http://www.fembio.org/biographie.php/frau/frauendatenbank?fem_id=20663. dyddiad cyrchiad: 5 Mai 2019.
- ↑ M. W. Nevinson, Life's fitful fever (1926)
- ↑ C. R. W. Nevinson, Paint and prejudice (1937)