Margery Allingham

Awdures o Loegr oedd Margery Allingham (20 Mai 1904 - 30 Mehefin 1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau ditectif ac fel nofelydd. Ymhlith y cymeriadau a greodd mae'r gŵr bonheddig o dditectif, Albert Campion.

Margery Allingham
FfugenwMaxwell March Edit this on Wikidata
GanwydMargery Louise Allingham Edit this on Wikidata
20 Mai 1904 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1966 Edit this on Wikidata
Severalls Hospital, Colchester Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Sefydliad Stephen Perse
  • Prifysgol Westminster Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, golygydd Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dirgelwch, ffuglen dditectif Edit this on Wikidata
TadHerbert Allingham Edit this on Wikidata
MamEmmie Allingham Edit this on Wikidata
PriodYoungman Carter Edit this on Wikidata

Ganed Margery Louise Allingham yn Ealing ar 20 Mai 1904 a bu farw yn Colchester o ganser y fron.[1][2][3][4][5][6]

Yn wreiddiol, credir mai paraodi ar un o dditectifs Dorothy L. Sayers, yr Arglwydd Peter Wimsey, aeddfedodd Campion yn gymeriad unigol, rhan-dditectif, rhan-anturiaethwr, a bu'n sail i 18 nofel a llawer o straeon byrion.

Magwraeth golygu

Ganwyd Margery Allingham yn Ealing, Llundain yn 1904 i deulu a oedd wedi ymgolli mewn llenyddiaeth. Roedd ei thad Herbert a'i mam Emily Jane (g. Hughes), ill dau yn ysgrifenwyr. Roedd Herbert yn olygydd y Christian Globe a The New London Journal (y cyfrannodd Margery erthyglau a straeon Sexton Blake yn ddiweddarach), cyn dod yn awdur ffuglen mwydion (pulp fiction) llwyddiannus, tra roedd Emily Jane yn gyfrannwr straeon i gylchgronau merched. Yn fuan ar ôl genedigaeth Margery, gadawodd y teulu Llundain gan ymgartrefu yn Essex, lle roeddent yn byw mewn hen dŷ yn Layer Breton, pentref ger Colchester. Mynychodd ysgol leol ac yna'r Perses School for Girls yng Nghaergrawnt, gan ysgrifennu straeon a dramâu dwry gydol yr amser. Enillodd ei ffi gyntaf yn wyth oed, am stori a argraffwyd yng nghylchgrawn ei modryb.[7]

Ar ôl dychwelyd i Lundain ym 1920, astudiodd y ddrama a lleferydd yng Ngholeg Polytechnig Regent Street, ac yno y gwellwyd ei hatal dweud, wedi dioddef ohono ers ei phlentyndod. Ysgrifennodd yn gyson trwy ei dyddiau ysgol a choleg, pan sgwennodd y ddrama Dido ac Aeneas, a berfformiwyd yn Neuadd San Siôr a Theatr Cripplegate. Chwaraeodd Allingham rôl Dido a chynlluniwyd y golygfeydd gan Philip Youngman Carter. Yno hefyd y cyfarfu â'i darpar ŵr, Philip Youngman Carter, a briododd ym 1927. Cydweithiodd â hi a chynlluniodd y siacedi ar gyfer llawer o gloriau ei llyfrau. Roeddent yn byw ar ymyl Cors Essex yn Tolleshunt D'Arcy, ger Maldon.

Gweithiau cynnar golygu

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Blackkerchief Dick, yn 1923 pan oedd yn 19 oed. Yn ôl pob sôn, roedd yn seiliedig ar stori a glywodd yn ystod séance, er yn ddiweddarachgwadwyd hyn gan ei gŵr. Serch hynny, parhaodd Allingham i gynnwys themâu ocwlt mewn nifer o nofelau. Cafodd Blackkerchief Dick dderbyniad da, ond nid oedd yn llwyddiant ariannol. Ysgrifennodd nifer o ddramâu yn y cyfnod hwn, a cheisiodd ysgrifennu nofel ddifrifol, ond penderfynodd fod ei themâu'n gwrthdaro â'i hysbryd ysgafn, rhydd, penderfynodd yn hytrach roi cynnig ar storiau dirgelwch.

Llwyddiant golygu

Digwyddodd ei llwyddiant ym 1929 pan gyhoeddodd The Crime at Black Dudley. Roedd hyn yn cyflwyno Albert Campion, er ei fod yn wreiddiol yn gymeriad bach, y credir ei fod yn barodi o Arglwydd Peter (un o gymeriadau Dorothy Sayers). Dychwelodd yn Mystery Mile, diolch yn rhannol i bwysau gan y cyhoeddwyr Americanaidd, a hoffai'r cymeriad.

Ar y dechrau, bu'n rhaid iddi barhau i ysgrifennu straeon byrion a newyddiaduraeth ar gyfer cylchgronau fel The Strand Magazine, ond wrth i Campion fagu cig a gwaed, tyfodd ei dilynwyr a gwerthiant ei llyfrau'n raddol. Profodd Campion mor llwyddiannus nes i Allingham ei wneud yn ganolbwynt i 17 nofel arall a thros 20 o straeon byrion, gan barhau i'r 1960au.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o 'Detection Club' am rai blynyddoedd. [8][9]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118885192. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/khw03w335cz8718. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2007. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Awst 2015. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Louise Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Louise Allingham".
  4. Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Awst 2015. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Louise Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margery Allingham". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Oxford Dictionary of National Biography.
  5. Tad: Oxford Dictionary of National Biography.
  6. Mam: Oxford Dictionary of National Biography.
  7. "Margery Allingham". Classic Crime Fiction. Cyrchwyd 26 Hydref 2014.
  8. Alma mater: Oxford Dictionary of National Biography. Oxford Dictionary of National Biography.
  9. Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.