Yr ocwlt

(Ailgyfeiriad o Ocwlt)

Enw ar wybodaeth y cyfrin neu wybodaeth y cuddiedig, neu yn ei ystyr poblogaid gwybodaeth am y goruwchnaturiol a'r paranormal, yw yr ocwlt.[1] Ei wrthwyneb ydy gwybodaeth y gweledol neu wybodaeth fesuradwy, sydd fel arfer yn cyfeirio at wyddoniaeth. Tarddai'r gair yn y bôn o'r Lladin occultus, sef dirgelaidd, cyfrin, neu guddiedig. I ymarferwyr yr ocwlt, ystyr y gair yw'r astudiaeth o "realiti" ysbrydol sy'n estyn tu hwnt i resymeg bur a gwyddoniaeth ffisegol, er bod rhai ymarferwyr yn anghytuno â'r fath ddadansoddiad yn sgil datblygiad mecaneg cwantwm, er enghraifft ymarferwyr dewiniaeth Caos. Mae'r gair yn gyfystyr i raddau helaeth ag esoteriaeth. Caiff y term ei ddefnyddio er mwyn labelu nifer o sefydliadau neu urddau a'u hymarferion. Mae'r enw hefyd yn estyn i ddisgrifio corff mawr o lenyddiaeth ac athroniaeth ysbrydol.

Ocwltiaeth golygu

Ocwltiaeth yw'r astudiaeth o ddoethineb ocwlt neu guddiedig. I'r ocwltydd yr astudiaeth am y "Gwir" yw ystyr yr enw, "gwir" dyfnach sy'n bodoli islaw'r arwyneb. Gellir cynnwys pynciau fel dewiniaeth, canfyddiad synhwyrol ychwanegol (galluoedd seicig), astroleg, ysbrydegaeth, rhifoleg, a breuddwydio eglur. Yn aml mae yna elfennau crefyddol i'r astudiaethau a chredau hyn, ac mae llawer o ocwltwyr yn proffesu dilyn crefyddau fel Cristnogaeth, Iddewiaeth, Paganiaeth, Hindŵaeth, Bwdhaeth neu Islam.

Mae'r gair "ocwlt" yn derm rhywogaethol, am ei fod yn cynnwys bron bopeth sydd ddim yn cael ei hawlio gan y crefyddau mawr a hefyd llawer o bethau sydd yn perthyn iddynt. Mae hyd yn oed y Cabbala yn cael ei ystyried yn astudiaeth ocwlt, efallai am ei boblogrwydd ymhlith dewiniaid Ewrop.

Mewn termau eang, nid yw mewnwelediad uniongyrchol na chanfyddiad o'r ocwlt yn cynnwys mynediad i ffeithiau mesuradwy, eithr fe'i cyrhaeddir trwy'r meddwl neu'r ysbryd. Gallai'r term cyfeirio at hyfforddiant meddyliol, seicolegol neu ysbrydol. Serch hynny mae llawer o ocwltwyr hefyd yn astudio gwyddoniaeth, rhai am eu bod yn gweld gwyddoniaeth fel cangen o alcemeg a rhai yn defnyddio ffiseg cwantwm fel esboniad gwyddonol ar gyfer hud.

Gwyddoniaeth a'r ocwlt golygu

Ystyrier ocwltiaeth yn astudiaeth o anian fewnol pethau, tra bo gwyddoniaeth yn astudiaeth o nodweddion allanol. Galwodd yr athronydd Almaeneg Alfred Schopenhauer yr 'anian fewnol' hwnnw'n 'Ewyllys", gan awgrymu bod gwyddoniaeth a mathemateg heb y gallu i dreiddio tu hwnt i'r berthynas rhwng un peth a pheth arall er mwyn esbonio 'anian fewnol' y peth ei hun, yn annibynnol o unrhyw berthnasau achosol allanol gyda 'phethau' eraill.

Pwyntiodd Schopenhauer hefyd i anian berthynolaidd gynhenid mathemateg a gwyddoniaeth gonfensiynol yn ei ddatganiad o'r Byd fel Ewyllys a Syniad (Die Welt als Wille und Vorstellung 1819). O ddiffinio rhywbeth mewn termau a wnelo â'i berthnasau allanol a'u heffeithiau allanol yn unig gawsom o hyd i ddim byd ond anian sydd yn allanol neu'n echblyg. Mae ocwltiaeth, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar anian 'y peth ynddo ei hun'. Gwneir hyn yn amlaf trwy ymwybyddiaeth ganfyddiadol uniongyrchol, a elwir cyfriniaeth.

Ystyrier Alcemeg, sydd yn rhagflaenydd i wyddoniaeth fodern, yn ymarfer ocwlt. Er bod y rhan fwyaf o wyddonwyr yn anffyddwyr, roedd alcemeg yn ymarfer cyffredin ymhlith gwyddonwyr, fel Isaac Newton.

Crefydd a'r ocwlt golygu

Mae rhai enwadau crefyddol yn gweld yr ocwlt i fod un rhywbeth goruwchnaturiol sydd ddim yn cael ei gyflawni gan neu drwy Dduw, ac felly rhywbeth sy'n hanu o endid maleisus a gwrthwynebol. Mae gan y gair arwyddocâd negyddol i lawer o bobl, ac er bod llawer o ymarferion a ystyrier gan rai i fod yn "ocwlt" i'w darganfod o fewn y crefyddau mawr, yn y cyd-destun hwn ni ddefnyddier y term "ocwlt" yn aml.

Yn Iddewiaeth, caniateir astudiaethau ysbrydol arbennig fel y Cabbala i rai unigolion (fel rabiniaid a'u myfyrwyr dethol). Nid yw'r astudiaethau hyn yn cydffurfio â defodau cyffredin Iddewiaeth. Hefyd mae rhai ffurfiau o Islam yn caniatáu i ysbrydion gael eu gorchymyn yn enw Duw i wneud gweithredoedd cyfiawn a chynorthwyo Mwslemiaid da. Ceir hefyd canghennau cyfriniol o Gristnogaeth sy'n ymarfer darogan, bendithio, neu apelio i engyl am ymyriadau. Mae Rhosgroesiaeth, un o ganghennau cyfriniol enwocaf Cristnogaeth, wedi dylanwadu ar y rhan fwyaf o ocwltiaeth Gristnogol ers yr 17g.

Mae Tantra, sy'n hanu o India, yn cynnwys ymhlith ei ganghennau amrywiol amrywiaeth o ymarferion defodol fel ymarferion dychmygu a chanu mantra i ddefodau cymhleth sy'n cynnwys cyfathrach rywiol ac aberth anifeiliaid, weithiau i'w perfformio mewn lleoedd gwaharddedig fel tiroedd amlosgiad.

Cyfeiriadau golygu

  1.  ocwlt. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Ionawr 2019.