Mari Ellis
Awdur ac ymgyrchydd dros hawliau menywod o Gymraes
Awdur ac ymgyrchydd dros hawliau menywod o Gymru oedd Mari Gwendoline Ellis (ganwyd Mary Gwendoline Headley, 21 Gorffennaf 1913 – 25 Ionawr 2015).[1]
Mari Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1913 Dylife |
Bu farw | 25 Ionawr 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched, llyfrgellydd |
Priod | Thomas Iorwerth Ellis |
Plant | Meg Elis |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed yn Dylife, Sir Drefaldwyn, yn ferch i'r Parchedig Richard Llewelyn Headley. Ym 1936 graddiodd gyda BA Anrh yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, a gwnaeth radd MA ym 1938. Ar ôl gweithio mewn amryw lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, ym 1944 fe’i penodwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Priododd â Thomas Iorwerth Ellis ym 1949. Eu merch yw'r awdur Meg Elis. Bu'n golygu 'Tŷ Ni', adran merched yn Y Cymro am 9 mlynedd a chyhoeddodd Ffenest y Gegin ym 1965. Roedd ganddi golofn hefyd yn Y Llan am nifer o flynyddoedd.
Gweithiau
golygu- Ffenest y Gegin 1965
- Y Golau Gwan - llythyrau caru TE Ellis
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (2015-03-15). "Mari Ellis: Writer who worked for the New Wales Union and championed women's rights - People - News". Independent.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-07. Cyrchwyd 2015-04-16.