Prifysgol Bangor
Prifysgol ym Mangor, Gwynedd, gogledd Cymru yw Prifysgol Bangor (cyn-enwau: Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru). Mae'n aelod-sefydliad o Brifysgol Cymru. Derbyniodd siarter Frenhinol yn 1885 ac roedd yn un o'r cyrff hynny a sefydlodd y Brifysgol ffederal. Cawsai ei hadnabod am y rhan fwyaf o'i hoes fel "Brifysgol Cymru, Bangor". Ers Medi 2007 fe'i gelwir yn Brifysgol Bangor, gan iddi wahanu oddi wrth Brifysgol ffederal Cymru.
Prifysgol Bangor | |
---|---|
Prif adeiladau Prifysgol Bangor | |
Arwyddair | Gorau Dawn Deall |
Sefydlwyd | 1884 |
Math | Cyhoeddus |
Llywydd | Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC |
Is-ganghellor | Yr Athro John G Hughes |
Myfyrwyr | 14,020[1] |
Israddedigion | 8,500[1] |
Ôlraddedigion | 2,030[1] |
Myfyrwyr eraill | 3,490 Addysg bellach[1] |
Lleoliad | Bangor, Cymru |
Cyn-enwau | Prifysgol Cymru, Bangor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru |
Lliwiau | coch a melyn |
Tadogaethau | Prifysgol Cymru |
Gwefan | http://www.bangor.ac.uk |
Pan archwiliwyd asesiadau ymchwil y coleg yn 2008, gwelwyd fod bron i 50% o'r holl waith ymchwil o fewn ei muriau yn flaenllaw - a hynny yn nhermau bydeang. Caiff ei gydnabod fel y 251fed prifysgol mwyaf blaenllaw yn y byd.[2] Yn ôl Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion Prydain, 2012,[3] caiff ei gyfri fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran yr addysgu ac o fewn y 15eg gorau ym Mhrydain yn y categori hwn.
Cyhoeddir Esgor, cyfnodolyn cyntaf y Gymraeg ar fydwreigiaeth, gan y brifysgol.
Sefydlwyd yn 1884 gyda 58 o fyfyrwyr. Nawr, yn yr unfed ganrif ar hugain mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r brifysgol.[4]
Yn 2023, enwyd y brifysgol yn Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru gan y Daily Mail.[5]
Cynfyfyrwyr a staff enwog
golyguAcademyddion
golygu- Yr Athro Pwyll ap Siôn, Adran Gerdd
- Yr Athro Samuel L. Braunstein (tan 2004), ffisegydd
- Yr Athro Antony Carr, hanesydd
- Tony Conran, bardd a chyfieithydd
- Yr Athro David Crystal, ieithydd ac ysgrifennwr
- Yr Athro Bedwyr Lewis Jones, ysgolhaig Cymraeg
- Yr Athro John Morris-Jones, ieithydd
- Yr Athro Ron Pethig
- Yr Athro Gwyn Thomas, ysgolhaig Cymraeg a bardd
- Syr Ifor Williams, ieithydd ac arbenigwr ar yr Hengerdd
Eraill
golygu- Frances Barber, actores
- Danny Boyle, cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd
- Richard Brunstrom (Cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru), graddiodd mewn Sŵoleg ym 1979
- A. H. Dodd, hanesydd
- Y Prifardd Gwyn ap Gwilym
- Mark Hughes, (Cymrawd er Anrhydedd), rheolwr pêl-droed
- Rhys Ifans, (Cymrawd er Anrhydedd), actor
- Siân James, cantores
- Emyr Preis, hanesydd
- D. W. Roberts, gwyddonydd
- John Sessions, actor
- G. W. Shaw, hanesydd
- R. Williams Parry, bardd
- Phillip Pullman (Cymrawd er Anrhydedd), nofelydd plant Saesneg
- R. S. Thomas, bardd Cymreig
- Carol Vorderman (Cymrawd er Anrhydedd), cyflwynydd teledu
Colegau
golyguColeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad
- Gweler hefyd: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
- Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
- Ysgol Gwyddorau Meddygol
- Ysgol Seicoleg
- Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau[6]
- Ysgol y Gymraeg
- Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
- Ysgol Dysgu Gydol Oes
- Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg
- Ysgol Ieithyddiaeth ac iaith Saesneg
- Ysgol Ieithoedd Modern
- Ysgol Cerddoriaeth
- Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
- Ysgol Saesneg
Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol
- Ysgol Cemeg
- Ysgol Cyfrifiadureg
- Ysgol Peirianneg Electronig
Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas
- Ysgol Addysg
- Ysgol Busnes Bangor
- Ysgol y Gyfraith
- Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol
Coleg Gwyddorau Naturiol[7]
- Ysgol Gwyddorau Biolegol (gan gynnwys Gardd Fotaneg Treborth)
- Ysgol Gwyddorau Eigion
- Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Neuaddau Preswyl
golygu- Safle Ffriddoedd
- Safle Ffordd y Coleg
- Safle'r Santes Fair
- Safle'r Normal
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 19 Ebrill 2008.
- ↑ "World University Rankings 2011-2012". Times Higher Education. Cyrchwyd 2013-05-18.
- ↑ "Bangor University Profile". Bangor.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-17. Cyrchwyd 2013-05-18.
- ↑ Roberts, David (2009). Bangor University, 1884-2009. Chippenham, Wiltshire: CPI Antony Rowe. ISBN 978-0-7083-2226-0.
- ↑ Price, Emily (2023-09-12). "Bangor named as Welsh University of the Year". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-14. Cyrchwyd 2015-08-08.
- ↑ https://www.bangor.ac.uk/cns/ Archifwyd 2016-12-14 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 29/8/16