Mari Emlyn
Awdur ac actores yw Mari Emlyn (ganwyd Chwefror 1964).
Mari Emlyn | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1964 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, ysgrifennwr, actor ![]() |
Tad | Owen Edwards ![]() |
Ganwyd a magwyd Emlyn yng Nghaerdydd yn ferch i Shân Emlyn Jones ac Owen Edwards.[1] Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon.
Ei chyhoeddiad diweddaraf fel awdur yw Cofiwch Dryweryn - Cymru'n Deffro / Wales Awakening (Hydref 2019), sef cyfrol a ganolbwyntia ar ffenomenon murluniau diweddaraf Cofiwch Dryweryn sydd wedi ymddangos ar hyd a lled Cymru mewn ymateb i'r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol. Ynghyd â lluniau o'r murluniau, mae'r rhai fu'n eu peintio yn egluro pam eu bod wedi gweithredu yn y fath fodd a cheir cyfraniadau gan rai fu'n llygad dystion i foddi Capel Celyn.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ JONES, SHÂN EMLYN (1936 - 1997), cantores. Bywgraffiadur Cymru (20 Mai 2020). Adalwyd ar 14 Awst 2022.
- ↑ "www.gwales.com - 9781845271329, Llythyrau'r Wladfa 1865–1945". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.