Ffotograffydd a dylunydd graffeg yw Marian Delyth (ganwyd Mawrth 1954)[1].

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Marian Delyth Jones yn Aberystwyth a derbyniodd ei haddysg gynnar yn yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Tynnodd ei llun cyntaf yn 10 oed.[2]

Mae hi'n gweithio o'i stiwdio ym Mlaenplwyf, ger Aberystwyth ers 1982.[2]

Wedi gadael y coleg, gweithiodd gyda chwmni hysbysebu am gyfnod cyn dychwelyd i fyw yng Ngheredigion. Mae gwaith Marian i'w gweld mewn nifer o gyhoeddiadau ac mae hi wedi ennill sawl gwobr. Yn 2000 dechreuodd ganolbwyntio ar ei ffotograffiaeth - ar gomisiynau, gwaith personol, gweithdai a dysgu o dro i dro.[3]

Yn nechrau yn Ebrill 2014, bu arddangosfa o'i gwaith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, "60: Lluniau gan Marian Delyth", arddangosfa a oedd yn dathlu ac arddangos ei ffotograffiaeth ar ei phen-blwydd yn 60 mlwydd oed!".[4]

Cyhoeddiadau

golygu

Ffynonellau

golygu
  1. (Saesneg) Marian Delyth JONES. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
  2. 2.0 2.1  60: lluniau gan Marian Delyth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
  3. ffoton.wales; Archifwyd 2016-07-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd Rhagfyr 2016.
  4.  60: Lluniau gan Marian Delyth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2016.
  5. Gwefan y BBC; Hanesydd a ffotograffydd yn creu cyfrol ; adalwyd 05/01/2012