Ysgol Ramadeg Ardwyn
Hen ysgol ramadeg yn Aberystwyth ar gyfer talgylch gogledd Ceredigion oedd Ysgol Ramadeg Ardwyn. Addysgwyd nifer o enwogion Cymru yn yr ysgol.
Hanes
golyguSefydlwyd yr ysgol yn 1891 gan ddod i ben yn 1973. Cedwyr ei harchifau yn Archifdy Ceredigion. Wedi cau'r ysgol daeth yr adeilad yn gartref i Ysgol Penweddig a'r hen ysgol 'Secondary Modern' Pendinas, yn gartref i ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Penglais.
Saesneg oedd cyfrwng addysg yr ysgol. Byddai disgyblion yn teithio o ardal hen gantref Penweddig a thu hwnt i aros dros nos neu am wythnos, yn ogystal â disgyblion mwy lleol yn mynychu'n ddyddiol.
Ceir atgofion o safon ac amrywiaeth yr addysg a'r sioc o fynd i awyrgylch Seisnig wedi bod mewn ysgolion cynradd Cymraeg lleol gan aelodau Merched y Wawr.[1]
Yn ystod yr 1960au gyda'r twf yn y symudiad oddi ar addysg ramadeg a tuag at addysg gyfun. Yn 1966 roedd natur a chyflwr yr adeilad yn destun trafodaeth a codwyd cwestiwn ar fuddsoddiad yn yr adeilad gan y cyn-ddisbygl a'r aelod seneddol lleol, Elystan Morgan[2]
Presennol
golyguMae'r adeilad bellach wedi ei throi'n fflatiau ac adeiladwyd tai ar y tir o'i hamgylch. Gelwir fflatiau'r hen adeilad yn 'Llŷs Ardwyn' a cheir 'Bryn Ardwyn' lle bu rhai o adeiladau allanol yr ysgol.
Cyn-ddisgyblion
golygu- Eurfyl ap Gwilym, economegydd
- Marian Delyth, ffotograffydd
- John Hefin, cynhyrchydd teledu a ffilm
- Geraint Howells, Aelod Seneddol
- Dafydd Huws, gwleidydd a seiciatrydd
- Dafydd Ifans, academydd
- Elwyn Ioan, arlunydd
- Myfyr Isaac, cerddor
- David Jenkins (llyfrgellydd)
- Tom Macdonald, newyddiadurwr ac awdur
- Elystan Morgan, Aelod Seneddol a chyfreithiwr
- John Morris, Aelod Seneddol a bargyfreithiwr
- Thomas Ifor Rees, diplomat a llenor
- Edward Prosser Rhys, llenor a golygydd
- Meg Elis, awdur a chyfieithydd
- Rhiannon Evans, gemydd