Mariano José de Larra

Newyddiadurwr, dramodydd, a nofelydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Mariano José de Larra (24 Mawrth 180913 Chwefror 1837).

Mariano José de Larra
FfugenwFígaro Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Mawrth 1809 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 1837 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, dramodydd, bardd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ym Madrid. Bu'n rhaid i'w deulu symud i Ffrainc yn 1814, ar ddiwedd Rhyfel Iberia, oherwydd i'w dad gydweithio â'r Ffrancod yn ystod meddiannaeth Sbaen gan luoedd Napoleon. Dychwelant i Sbaen yn 1818, a phenodwyd tad Larra yn feddyg personol i frawd y Brenin Fernando VII.

Cyhoeddodd Larra y papurau newydd El duende satírico del día (1828) ac El pobrecito hablador (1832–33). Ysgrifennodd feirniadaeth theatr ar gyfer y papur newydd cenedlaethol La revista española, dan y ffugenw Fígaro. Cynhyrchwyd ei ddrama Macías yn 1834. Cyhoeddodd ei unig nofel, El doncel de Don Enrique el doliente, yn 1834.

Bu farw ym Madrid trwy hunanladdiad yn 27 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Mariano José de Larra. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2019.