Cofiwch!

Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel.
Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia,
ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!

Y weithred o unigolyn yn terfynu bywyd ei hun yn fwriadol yw hunanladdiad. Yn aml, cyflawnir hunanladdiad am fod person yn teimlo heb obaith, neu oherwydd anhwylder meddyliol a allai gynnwys iselder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, alcoholiaeth neu gam-ddefnydd o gyffuriau.[1] Mae anhawsterau ariannol, problemau gyda pherthynas rhyngbersonol a sefyllfaoedd annymunol eraill yn medru chwarae rhan hefyd.[2]

Mae dros filiwn o bobl yn farw drwy hunanladdiad yn flynyddol. Dyma yw'r prif achos o farwolaeth ymysg pobl yn eu harddegau ac oedolion o dan 35 oed. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg dynion na menywod.[3][4] Amcangyfrifir fod rhwng 10 ac 20 miliwn o bobl yn ceisio cyflawni hunanladdiad yn flynyddol yn aflwyddiannus.[5]

Maer Leipzig ar ôl lladd eu hunan, ei wraig a'i ferch ar 20 Ebrill, 1945.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hawton K, van Heeringen K (April 2009). Suicide, tud. 1372–81. DOI:10.1016/S0140-6736(09)60372-X
  2.  www.uvm.edu (PDF).
  3.  CIS: UN Body Takes On Rising Suicide Rates – Radio Free Europe / Radio Liberty 2006.
  4. (29 Ion 2000) Understanding suicidal behaviour. Caerlyr: BPS Books, tud. 33–37. ISBN 978-1-85433-290-5URL
  5. Bertolote JM, Fleischmann A (October 2002). Suicide and psychiatric diagnosis: a worldwide perspective (PDF), tud. 181–5. URL


  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato