Marie Luise Kaschnitz
Awdures o'r Almaen oedd Marie Luise Kaschnitz (31 Ionawr 1901 - 10 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur straeon byrion a bardd. Caiff ei hystyried fel un o'r prif feirdd yn y cyfnod a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd.
Marie Luise Kaschnitz | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1901 Karlsruhe |
Bu farw | 10 Hydref 1974 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, awdur storiau byrion |
Adnabyddus am | Die Reise des Herrn Admet, Ferngespräche |
Arddull | barddoniaeth |
Priod | Guido Kaschnitz von Weinberg |
Plant | Iris Schnebel-Kaschnitz |
Perthnasau | Karola von Brauer |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Gwobr Lenyddol Georg Mackensen, Gwobr Immermann, honorary doctorate of the Johann Wolfgang Goethe University Frankfurt, Gwobr Roswitha, Goethe-Plakette des Landes Hessen |
Gwefan | http://www.kaschnitz.de/sites/biofr.html |
Ganed Marie Luise von Holzing-Berslett yn ninas Karlsruhe, yn nhalaith Baden-Württemberg, yr Almaen ar 31 Ionawr 1901; bu farw yn Rhufain. Priododd â'r archeolegydd a'r awdur Guido Freiherr Von Kaschnitz-Weinberg yn 1925, a theithiodd gydag ef ar deithiau archeolegol.[1][2][3][4][5][6]
Cafodd ganmoliaeth uchel am ei straeon byrion, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd. Casglwyd y straeon hyn mewn llyfrau fel Orte and Engelsbrücke. Ymgorfforodd lawer o'r llefydd a welodd ar ei theithiau yn ei gwaith llenyddol. Mae ei storiau'n feddylgar o ran natur, yn hytrach nag yn llawn digwyddiadau, yn delio â chamau penodol bywyd neu berthynas menyw. Ei phrif gasgliad yw Lange Schatten (Cysgodion Hirion). Ei hoff stori ganddi oedd Das dicke Kind ('Y Plentyn Tew) yn 1961.
Y casgliad o draethodau Menschen und Dinge (1945) oedd y garreg filltir cyntaf iddi, a dyma'r gwaith o gyhoeddodd i ddarllenwyr Almaeneg fod yma lenor arbennig. Ymdriniodd ei cherddi â'r rhyfel a'r cyfnod ar ôl y rhyfel, gan fynegi'r dyhead am heddwch y gorffennol, ond hefyd yn gobeithio am y dyfodol. Roedd y gyfrol Dein Schweigen - meine Stimme (Eich tawelwch - fy llais i) yn delio â marwolaeth ei gŵr. Ar ôl 1960 cafodd ei ddylanwadu gan Pablo Neruda.
Am gyfnod byr, dysgodd wleiyddiaeth ym Mhrifysgol Frankfurt. Roedd yn aelod o PEN ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Georg Büchner yn 1955 a Gwobr Roswitha ym 1973. Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth yn 1967. Bu farw yn 73 oed yn Rhufain. Sefydlwyd 'Gwobr Marie Luise Kaschnitz' yn ei henw, i gofio amdani.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1955), Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main (1966), Gwobr Lenyddol Georg Mackensen (1964), Gwobr Immermann (1957), honorary doctorate of the Johann Wolfgang Goethe University Frankfurt, Gwobr Roswitha (1973), Goethe-Plakette des Landes Hessen (1971) .
Gweithiau
golygu- Liebe beginnt (1988) - nofel
- Elissa (1988) - nofel
- Griechische Mythen (1988) - chwedlau Groegaidd
- Menschen und Dinge 1988. Zwölf Essays (1988) - traethodau
- Gedichte (1947) - cerddi
- Totentanz und Gedichte zur Zeit (1947) - cerddi a drama
- Gustave Courbet. Roman eines Malerlebens (hefyd: Die Wahrheit, nicht der Traum) (1950) - nofel
- Zukunftsmusik (1950) - cerddi
- Ewige Stadt (1952) - barddoniaeth am Rufain
- Das dicke Kind (1952) - storiau byrion
- Engelsbrücke. Römische Betrachtungen (1955) - atgofion
- Das Haus der Kindheit (1956) - nofel
- Der Zöllner Matthäus (1956) - drama radio (sgript)
- Lange Schatten (1960) - storiau byrion
- Ein Gartenfest (1961) - dram radio (sgript)
- Dein Schweigen – meine Stimme (1962) - cerddi
- Hörspiele (1962) - dramau radio
- Einer von zweien (1962)
- Wohin denn ich : Aufzeichnungen (1963) - atgofion
- Überallnie (1965) - cerddi
- Ein Wort weiter (1965) - cerddi
- Ferngespräche (1966) - short storiau
- Beschreibung eines Dorfes (1966) - nofel arbrofol
- Tage, Tage, Jahre (1968) - atgofion
- Vogel Rock. Unheimliche Geschichten (1969) - storiau
- Steht noch dahin (1970) - atgofion bywgraffyddol
- Zwischen Immer und Nie. Gestalten und Themen der Dichtung (1971) - traethodau on cerddi
- Gespräche im All (1971) - dramau radio
- Eisbären (1972) - storiau
- Kein Zauberspruch (1972) - poems 1962-1972
- Gesang vom Menschenleben (1974) - cerddi
- Florens. Eichendorffs Jugend (1974)
- Der alte Garten. Ein modernes Märchen (1975)
- Orte (1975) - bywgraffiad
- Die drei Wanderer (1980) - baled
- Jennifers Träume. Unheimliche Geschichten (1984) - storiau
- Notizen der Hoffnung (1984) - traethodau
- Orte und Menschen (1986) - atgofion
- Menschen und Dinge (1986) - atgofion
- Liebesgeschichten (ed. E. Borchers) (1986) - storiau rhamantus
- Tagebücher aus den Jahren 1936-1966 (2000) - dyddiaduron
Rhifynau Americanaidd/Saesneg
golygu- The House of Childhood (Das Haus der Kindheit)
- Circe's Mountain - casgliad o storiau
- Whether or Not (Steht noch dahin)
- Selected Later Poems of Marie Luise Kaschnitz (ed. Lisel Mueller)
- Long Shadows (Lange Schatten)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_175. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". "Marie Luise Kaschnitz". "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Luise Kaschnitz". "Marie Luise Kaschnitz". "Marie Luise Kaschnitz". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014