Archaeoleg
Astudiaeth wyddonol o hanes a diwylliant dyn drwy ddatguddio a dadansoddi olion ffisegol yw archaeoleg. Gall yr olion fod yn bensaernïol, yn olion dynol, neu'r dirlun hyd yn oed. Nod yr archaeolegydd yw rhoi goleuni ar hanes ac ymddygiad dyn dros dymor hir. Gall anthropoleg fod o help i'r archaeolegwr hefyd. O'r 16eg ymlaen rhoddwyd gogwydd pur wyddonol ar waith yr achaeolegydd. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys dulliau dyddio radiometrig a charbon ddyddio yn dangos fod bywyd dynol wedi bodoli yng Nghymru ers dros chwarter miliwn o flynyddoedd. Mae'r gwaith diweddaraf ar genynnau'n dangos fod cysylltiad rhwng y pobl cynharaf a thrigolion presennol y wlad.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | hanesyddiaeth |
Y gwrthwyneb | pseudoarchaeology |
Rhan o | history, heritage and archaeology |
Yn cynnwys | archaeological numismatics, esgyrneg, gwyddor archaeolegol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dulliau archaeolegol
golyguMae archaeolegydd yn cloddio safleoedd hanesyddol ac yn dehongli'r gorffennol oddi wrth beth a ddarganfyddir ganddynt wrth gloddio a dod o hyd i bethau fel crochenwaith a darnau arian.
Archaeoleg yng Nghymru
golyguYmhlith y darganfyddiadau pwysicaf yng Nghymru mae Ogof Pen-y-fai (neu Paviland) a ddarganfuwyd yn 1823 gan William Buckland ac ogof Bont Newydd, Dyffryn Elwy a ddarganfuwyd yn yr 1860au gan Boyd Dawkins. Mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos fod olion pobl o'r Hen Oes y Cerrig (neu'r Oes Paleolithig) yma sy'n mynd yn ôl mor bell a 24,000 o flynyddoedd yn achos Dyffryn Elwy a 29,000 yn achos y dyn ifanc 29 oed a gafwyd hyd iddo ym Mhen y Fai.
Yng Nghymru, ceir pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg:
- Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd yn y gogledd-orllewin
- Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys (CPAT) yn y gogledd-ddwyrain
- Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed yn y de-orllewin
- Ymddiriedolaeth Archaeoleg Morgannwg-Gwent yn y de-ddwyrain.
Ceir hefyd corff a sefydlwyd yn 1908 sy'n cofnodi safleoedd fesul sir, sef y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.[1]
Archaeolegwyr enwog
golygu- Giovanni Battista Belzoni
- Lewis Binford
- Howard Carter
- Jean-Francois Champollion
- Arthur Evans
- Cyril Fox
- Henry Austin Layard
- Flinders Petrie
- W. F. Grimes
- Heinrich Schliemann
- Mortimer Wheeler: ceidwad archaeoleg yr Amgueddfa Genedlaethol a gyhoeddodd yr adroddiad safonol cyntaf ar archaeoleg yng Nghymru.
- V. E Nash-Williams
- J. J. Winckelmann
- Leonard Woolley
Gweler hefyd
golyguDarllen pellach
golygu- C.W. Ceram, Gods, Graves and Scholars (Götter, Gräber und Gelehrte, Hamburg, 1949; cyfieithiad Saesneg 1951, Llundain; ail argraffiad diwygiedig, Llundain, 1967, a sawl argraffiad diweddarach). Arolwg da a darllenadwy o hanes archaeoleg.
- Eric S. Wood, Collins Field Guide to Archaeology in Britain (Llundain, 1963; sawl argraffiad diweddarach)