Marilyn (mynydd)
Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro.
Ceir 2,010 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 159 yng Nghymru (yn cynnwys Mynydd Anelog[1]). Arferid cyfri'r Mynydd Du yn Lloegr ac yng Nghymru ond mae bellach yn cael ei gyfri yng Nghymru yn unig.[2] Mae mynyddoedd Eryri'n cael eu gosod yn y dosbarth hwn o fynyddoedd a chopaon.
Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.
Dosbarth | Uchder | |
---|---|---|
Munro | 3000+ tr | 914+ metr |
Corbett | 2500 – 3000 tr | 762 – 914 m |
Graham | 2000–2500 tr | 610 – 762 m |
Marilyn (mynydd) | –2000 tr | –610 m |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arolwg uchder Mynydd Anelog" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2024-05-11. Cyrchwyd 2013-12-08.
- ↑ "Update to The Relative Hills of Britain, 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-04. Cyrchwyd 2011-02-06.