Awdures ac athronydd Americanaidd oedd Marjorie Grene (13 Rhagfyr 1910 - 16 Mawrth 2009) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, athronydd ac academydd.

Marjorie Grene
Ganwyd13 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Milwaukee Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 2009 Edit this on Wikidata
Blacksburg, Virginia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, academydd, biolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Cafodd Marjorie Glicksman Grene ei geni yn Milwaukee, Wisconsin ar 13 Rhagfyr 1910; bu farw yn Blacksburg, Virginia). Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard a Choleg Wellesley.[1][2][3]

Ysgrifennodd yn helaeth ar ddirfodaeth (existentialism) ac athroniaeth gwyddoniaeth, yn enwedig athroniaeth bioleg. Bu'n dysgu ym 'Mhrifysgol Califfornia yn Davis' o 1965 i 1978. O 1988 hyd ei marwolaeth hi oedd Athro Athroniaeth Nodedig y Brifysgol er Anrhydedd yn Virginia Tech. Ei gradd gyntaf oedd sŵoleg, o Wellesley College; yna derbyniodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth gan Goleg Radcliffe. Astudiodd gyda Martin Heidegger a Karl Jaspers, gan adael yr Almaen ym 1933. Roedd hi yn Nenmarc yn 1935, ac yna ym Mhrifysgol Chicago. Ar ôl colli ei swydd yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd, treuliodd 15 mlynedd yn fam ac yn gweithio ar fferm. Cafodd ei hethol yn Gymrawd Academi Celfyddydau a Gwyddorau America ym 1976.[4][5]

Dywedodd ei choffád yn y New York Times ei bod yn "un o'r athronwyr cyntaf i godi cwestiynau am ddamcaniaeth synthetig esblygiad, sy'n cyfuno damcaniaeth esblygiad Darwin, dealltwriaeth Mendel o etifeddiaeth enetig a darganfyddiadau mwy diweddar gan fiolegwyr moleciwlaidd." Ysgrifennodd hi, ynghyd â'r cyd-awdur David Depew, hanes cyntaf athroniaeth bioleg. Yn 2002, hi oedd yr athronydd benywaidd cyntaf i gael argraffiad o Lyfrgell yr Athronwyr Byw (Library of Living Philosophers) wedi'i ysgrifennu amdani.[6]

Teulu golygu

O 1938 i 1961, roedd yn briod â David Grene, clasurydd a oedd hefyd yn ffermio yn Illinois ac yn Iwerddon, gwlad ei enei. Roedd ganddi hi a David ddau blentyn: Ruth Grene, athro ffisioleg planhigion yn Virginia Tech, a Nicholas Grene, Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America .


Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. Dyddiad geni: "Marjorie Grene". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marjorie Grene". ffeil awdurdod y BnF.
  3. Dyddiad marw: "Marjorie Grene dies at 98; historian of philosophy known as independent thinker". 22 Mawrth 2009. "Marjorie Grene". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marjorie Grene". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Marjorie Grene dies at 98; historian of philosophy known as independent thinker | LA Times 22 Mawrth 2009
  5. "Book of Members, 1780–2010: Chapter G" (PDF). American Academy of Arts and Sciences. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2014.
  6. Marjorie Grene, a Leading Philosopher of Biology, Is Dead at 98 | New York Times, 28 Mawrth 2009