Roedd Mark Burns (30 Mawrth 19368 Mai 2007) yn actor ffilm a theledu o Loegr.

Mark Burns
Ganwyd30 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Bromsgrove Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ampleforth College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, golygydd ffilm, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodJane How, Paulene Stone Edit this on Wikidata
Gwobr/auSitges Film Festival Best Actor award Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Burns yn Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon ac fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog. Yn wreiddiol, roedd yn bwriadu mynd i mewn i'r offeiriadaeth, ond ar ôl comisiwn gwasanaeth-byr gyda'r 15fed / 19eg, King's Royal Hussars (1955-57), lle'r oedd yn gwasanaethu yn Malaya a Gogledd Iwerddon, daeth yn actor. Dechreuodd ei yrfa yn 1960 gyda'r ffilm Tunes of Glory ac yna'r cyfresi teledu Lorna Doone (1963) a Rupert of Hentzau (1964). Un o'i rhannau mwyaf amlwg oedd y brif rhan gwrywaidd yn y ffilm ddirgel 1966 Death Is a Woman.[1] Ymddangosodd Burns hefyd yn y bennod "The Scales of Justice" oThe Saint, a pennod "It's Your Funeral" o The Prisoner' fel cynorthwyydd Rhif Dau.[2][3]

Chwaraeodd rhan William Morris yn The Charge of the Light Brigade (1968), Bernie yn A Day at the Beach (1970), y pianydd Alfred in Death in Venice (1971) a Hans von Bülow yn Ludwig (1972). Chwaraeodd Mark Burns ei rôl fawr gyntaf yn House of the Living Dead gan Ray Austin ym 1974 ac enillodd y wobr am yr actor gorau ym 1974 yng Ngŵyl Ffilmiau Sitges.[4] Ym 1975, ynghyd â Lynne Frederick, cymerodd ran yn A Long Return gan Pedro Lazaga. Ymddangosodd hefyd yn Count Dracula (1977) a The Bitch (1979). Arafodd ei waith yn yr 1980au a'r 1990au, gan ymddangos yn y ffilm Stardust (2007) am y tro olaf. Bu farw o ganser yr ysgyfaint.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Death Is a Woman (1966)". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-09. Cyrchwyd 2018-07-04.
  2. "The Scales of Justice (1969)". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-17. Cyrchwyd 2018-07-04.
  3. "It's Your Funeral (1967) - BFI". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-22. Cyrchwyd 2018-07-04.
  4. "The Unmutual News Archive - Mark Burns RIP (Portmeirion/Prisoner/McGoohan)". theunmutual.co.uk.