Awdures sosialaidd o Ffrainc a Rwmania oedd Marthe Bibesco (28 Ionawr 1886 - 28 Tachwedd 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, awdur ysgrifau, nofelydd, a chofiannydd. Gelwir hi hefyd yn "Marthe, Tywysogaes Bibesco"; Marthe Lucie; née Lahovary. Mae ei phapurau, ei gweithiau gwreiddiol, yng Nghanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin, UDA. Bu'n briod i George Valentin Bibescu ac roedd Valentine Bibesco yn blentyn iddi.

Marthe Bibesco
FfugenwLucile Decaux Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Ionawr 1886, 1888 Edit this on Wikidata
Bwcarést Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1973, 1973 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethbardd, awdur ysgrifau, nofelydd, ysgrifennwr, cofiannydd Edit this on Wikidata
TadIoan Lahovary Edit this on Wikidata
PriodGeorge Valentin Bibescu Edit this on Wikidata
PlantValentine Bibesco Edit this on Wikidata
PerthnasauConstantin Lahovary Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Marcelin Guérin, Gwobr Gustave Le Métais-Larivière, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Bwcarést ar 28 Ionawr 1886; bu farw ym Mharis. Roedd ei thad, a oedd wedi cael ei addysgu yn Ffrainc, yn gweithio fel gweinidog Teyrnas Rwmania ym Mharis ac yn ddiweddarach, fel gweinidog materion tramor Romania.[1][2][3][4]

Teulu a phriodi golygu

Ei henw bedydd oedd Marta Lucia Lahovary (a sillefir hefyd yn 'Lahovari'), a hi oedd trydydd plentyn Ioan Lahovary a'r Dywysoges Emma Mavrocordat. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar ar Ystad Lahovary yn Balotești ac arfordir Ffrainc yn Biarritz. Yn 1900 cyfarfu â Thywosog Ferdinand, etifedd Coron Rwmania a dyweddiodd y ddau, yn dawel. Ond ar ôl blwyddyn, a hithau'n 17 oed, priododd Marthe gyda Thywysog George III Valentin Bibescu (Bibesco), disgynnydd un o deuluoedd cyfoethocaf y wlad.

Roedd yn rhugl mewn Ffrangeg yn ifanc iawn (hyd yn oed cyn iddi allu siarad Rwmanieg), a threuliodd Marthe flynyddoedd cyntaf ei phriodas gyda'i mam-yng-nghyfraith, y Dywysoges Valentine Bibesco (née iarlles Riquet de Caraman-Chimay), a'i haddysgwyd mewn materion Ewropeaidd, gan gynnwys hanes a llenyddiaeth Ewrop. ond cafodd addysg bur wahanol yn ogystal â hyn, gan werinwr hoffus o'r enw Baba Uta [Outza], a adroddodd iddi hen chwedlau gwerin Rwmania. Yn y cyfamser, roedd ei gŵr, George, yn mwynhau ceir cyflym a menywod eraill, ond yn ychwanegu at ffortiwn y teulu ar yr un pryd.

Yr awdures golygu

 
Stamp, gyda llun pen Marthe Bibesco, a gyhoeddwyd yn 1990

Yn 1908 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, a oedd yn seiliedig ar un o'i theithiau; cafodd y gyfrol groeso a chanmoliaeth mawr gan y beirniaid llenyddol Ffrengig. Y llyfr, Les Huit Paradis ("Wyth Paradwys"), oedd cychwyn ei gyrfa lenyddol. Hi oedd Belle Epoque Paris, a chymdeithasodd yn hawdd ymysg y llenorion a'r gwleidyddion, fel y'i gilydd. Anrhydeddwyd hi gyda Gwobr Prix de l'Academie Française a chyfarfu a Marcel Proust, a ddanfonodd lythyr ati'n brolio ei llyfr: "Rwyt yn sgwennwr ardderchog, Dywysoges, a hefyd yn cerflunio geiriau, yn gerddor geiriau ac yn fardd!"

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [5][6]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Marcelin Guérin, Gwobr Gustave Le Métais-Larivière, Chevalier de la Légion d'Honneur[7] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb130919423. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/khw059p35scdxc6. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2013.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb130919423. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb130919423. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Lucile Decaux". dynodwr VIAF. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marthe Bibesco". https://www.biografiasyvidas.com/biografia/b/bibesco.htm.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb130919423. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Lucile Decaux". dynodwr VIAF. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marthe Bibesco". https://www.biografiasyvidas.com/biografia/b/bibesco.htm.
  5. Aelodaeth: http://www.arllfb.be/composition/successions.html. dyddiad cyrchiad: 1 Tachwedd 2015.
  6. Anrhydeddau: https://www.leonore.archives-nationales.culture.gouv.fr/ui/notice/34213. dyddiad cyrchiad: 9 Chwefror 2022.
  7. https://www.leonore.archives-nationales.culture.gouv.fr/ui/notice/34213. dyddiad cyrchiad: 9 Chwefror 2022.