Nofelydd a beiriniad o Ffrainc oedd Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust (10 Gorffennaf 187118 Tachwedd 1922). Mae'n fwyaf adnabyddus am À la recherche du temps perdu ("Chwilio am amseroedd coll"), a gyhoeddodd mewn saith rhan rhwng 1913 a 1927.

Marcel Proust
GanwydValentin Louis Georges Eugène Marcel Proust Edit this on Wikidata
10 Gorffennaf 1871 Edit this on Wikidata
16ain bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1922 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
16ain bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, awdur ysgrifau, llenor, beirniad llenyddol, bardd, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amÀ l'ombre des jeunes filles en fleurs, In Search of Lost Time, Jean Santeuil Edit this on Wikidata
Arddullnovel sequence, traethawd, pastiche Edit this on Wikidata
TadAdrien Proust Edit this on Wikidata
MamJeanne-Clémence Proust Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goncourt, Chevalier de la Légion d'Honneur, Grand Prize for the Best Novels of the Half-Century Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Proust yn Auteuil, rhan o ddinas Paris. Roedd ei dad, Achille Adrien Proust, yn batholegydd amlwg, yn gweithio ar achosion colera a sut i'w atal. Nid oedd ei iechyd yn dda pan oedd yn blentyn, ond treuliodd flwyddyn yn y fyddin yn (1889-90). Cyhoeddodd Du côté de chez Swann, rhan gyntaf À la recherche du temps perdu, yn 1913.

Bu farw yn 1922, a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis.

Llyfryddiaeth

golygu
  • 1896 Les plaisirs et les jours ("Pleserau a Dyddiau")
  • 1904 La Bible D'Amiens; cyfieithiad o lyfr John Ruskin The Bible of Amiens
  • 1906 Sésame et les lys; cyfieithiad o lyfr John Ruskin Sesame and Lilies
  • 1913–27 À la recherche du temps perdu
Cyfrol Teitl Ffrangeg Cyhoeddwyd Cyfieithiad
1 Du côté de chez Swann 1913 Y ffordd ger tŷ Swann
2 À l'ombre des jeunes filles en fleurs 1919 Yng nghysgod merched ieuanc yn blodeuo
3 Le Côté de Guermantes
(dwy gyfrol)
1920/21 Ffordd Guermantes
4 Sodome et Gomorrhe
(dwy gyfrol)
1921/22 Sodom a Gomorrah
5 La Prisonnière 1923 Y Carcharor
6 La Fugitive
Albertine disparue
1925 Y Ffoadur
Albertine wedi diflannu
7 Le Temps retrouvé 1927 Ail-ddarganfod yr amser


  • 1919 Pastiches et mélanges
  • 1954 Contre Sainte-Beuve
  • 1954 Jean Santeuil (anorffenedig)

Cyfeiriadau

golygu