Martin Coles Harman
Dyn busnes Seisnig oedd Martin Coles Harman (1885 – 1954)
Dyn busnes o Loegr oedd Martin Coles Harman (1885 – 1954). Ganwyd yn Steyning, Gorllewin Sussex. Addysgwyd yn Ysgol Whitgift.[1] Prynodd Ynys Wair ym 1925 am £25,000[2], a datganodd ei hun yn frenin yr ynys. Bathodd arian, y Pâl a hanner Pâl (ceiniog a hanner ceiniog). Erlynwyd am fathu arian anghyfreithlon; cafodd o’n euog ym 1931 a chafodd dirwy o £5, gyda threuliau o 15 gini.
Martin Coles Harman | |
---|---|
Ganwyd | 30 Awst 1885 Steyning |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1954 |
Galwedigaeth | person busnes |
Creodd y Merlyn Ynys Wair.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan lundy.org.uk" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-08-07. Cyrchwyd 2018-04-16.
- ↑ Gwefan Ymddiriodolaeth Landmark