Marwnad Cynddylan
Hen gerdd Gymraeg er coffa am y brenin Cynddylan neu Cynddylan ap Cyndrwyn, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7g, yw Marwnad Cynddylan.
Ceir y gerdd mewn llawysgrif o'r 17g (MS NLW4973). Arferid credu fod y gerdd yn dyddio o'r 9g, ond mae gwaith diweddar gan ysgolheigion wedi awgrymu ei bod yn hŷn, ac yn deillio o'r 7g, ac felly efallai yn gerdd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth Cynddylan ei hun. Bu Cynddylan farw tua 655, felly mae hyn yn rhoi'r gerdd ymhlith y cerddi Cymraeg cynharaf.
Mae'r gerdd yn coffáu Cynddylan a nifer o bersonau eraill, ei frodyr mae'n debyg, gan eu bod yn cael eu disgrifio fel "meibion Cyndrwynyn":
- Dyhedd deon diechir by[g]eledd
- Rhiau, a Rhirid, a Rhiossedd,
- a Rhygyfarch lary lyw eirassedd.
- Ef cwynif oni fwyf i’m derwin fedd,
- o leas Cynddylan yn ei fawredd
Ceir cyfeiriad at Arthur yn y gerdd; os derbynir fod y gerdd o'r 7g, mae'n un o'r cyfeiriadau cynharaf at Arthur:
- Brodyr a’m bwyad. [Oedd] gwell ban fythyn,
- canawon Arthur fras, dinas dengyn,
- [y] rhag Caer Lwytgoed nis digonsyn.
- [Oedd] crau y dan frain, a chrai gychwyn.
- Briwynt calch ar drwyn, feibion Cyndrwynyn.
- Ef cwynif oni fwyf yn nhir gwelyddyn,
- o leas Cynddylan, clodlawn unbyn.
Fodd bynnag, mae Jenny Rowland o'r farn y dylai'r llinell ddarllen:
- canawon arddyrnfras dinas degyn
Llyfryddiaeth
golygu- Jenny Rowland Early Welsh Saga Poetry: a study and edition of the englynion (Caergrawnt: D.S. Brewer, 1990)