Cynddylan
Brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7g oedd Cynddylan, neu Cynddylan ap Cyndrwyn (bu farw tua 655). Cysylltir ef a Pengwern, a chred rhai haneswyr ei fod hefyd yn rheolwr Dogfeiling.
Cynddylan | |
---|---|
Bu farw | 656 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Cyndrwyn Fawr |
Hanes
golyguMae Cynddylan yn fwyaf adnabyddus o'r gyfres englynion a elwir wrth yr enw Canu Heledd. Credir fod y farddoniaeth yma yn dyddio o tua'r 10g. Y person sy'n siarad ynddynt yw Heledd, chwaer Cynddylan. Mae'n galaru fod Cynddylan wedi ei ladd a'i neuadd yn wag:
Stauell gyndylan ys tywyll heno,
heb dan, heb wely.
wylaf wers; tawaf wedy.[1]
Ceir hefyd gerdd o'r enw Marwnad Cynddylan, mewn llawysgrif o'r 17g (MS NLW4973). Arferid credu fod y gerdd yma yn dyddio o'r 9g, ond mae gwaith diweddar gan ysgolheigion wedi awgrymu ei bod yn hŷn, ac yn deillio o'r 7g, ac felly efallai yn gerdd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth Cynddylan ei hun. Ceir awfrym yn y gerdd yma ei fod mewn cynhhrair a Penda, brenin Mersia, ac mae pennill yng Nghanu Heledd yn awgrymu iddo ymladd ym mrwydr Maes Cogwy pan laddwyd Oswallt, brenin Northumbria.
Cof
golyguMae'r nofelwraig Rhiannon Davies Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.
Llyfryddiaeth
golygu- Jenny Rowland, Early Welsh Saga Poetry: a study and edition of the englynion (Caergrawnt: D.S. Brewer, 1990)
- Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau, gol. Ifor Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Canu Llywarch Hen, gol. Ifor Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)