Marwnad yr Ehedydd
Mae "Marwnad yr Ehedydd" yn gân werin draddodiadol a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf un pennill sengl gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1914.[1] Priodolwyd y gân i Edward Vaughan, Plas-rhiw-Saeson, a gasglwyd gan Soley Thomas.
Enghraifft o'r canlynol | cân werin ![]() |
---|---|
Cyhoeddwr | Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1914 ![]() |
Bu dyfalu ei bod yn un o'r caneuon hynaf sy'n bodoli yn y Gymraeg, oherwydd gall yr ehedydd yn y gân fod yn gyfeiriad mewn cod at Owain Glyndŵr ac y gallai un o'i ddilynwyr fod wedi'i hysgrifennu. Mae'r pennill sengl wedi ei 'ffrwydro'[2] i ganeuon hirach o leiaf bedair gwaith. Y cyntaf oedd gan Enid Parry, [3][4] pan ychwanegwyd tri phennill arall, am adar eraill. Cyhoeddwyd ei geiriau hi hefyd mewn dau lyfr o ganeuon gwerin Cymraeg.[5] [6]
![\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t
\partial 16*2 c16 d16 % 0
e8 c d b % 1
c a r8 c16 d16 % 2
e8 c d b % 3
c a r16 a16 a b % 4
c8 c b b % 5
a b c d % 6
e e d c % 7
b b\fermata r16 a16 a b % 8
c8 a b gis % 9
a a4 \bar "|." % 10
} \addlyrics {
Mi a gly -- wais fod yr 'he -- dydd we -- di ma -- rw ar y my -- nydd;
Pe gwy -- ddwn i mai gwir y gei -- riau,
Awn â gyrr o wyr ac ar -- fau
I gyr -- chu corff yr he -- dydd a -- drau.
}](http://upload.wikimedia.org/score/9/f/9fy8xoaeptymus51m5oztvaucjf5xw5/9fy8xoae.png)
Ysgrifennwyd ail fersiwn gan Albert Evans-Jones (enw barddol Cynan),[7] ychwanegu pedwar pennill eto am adar eraill.
1. Mi a glywais fod yr ’hedydd, |
Defnyddiwyd yr ail fersiwn yma gan Bryn Terfel ar CD[8], a gan Arfon Gwilym ar gyfer Trac Cymru (Datblygu Gwerin Cymru).[9]
Defnyddir alaw wedi ei haddasu ychydig, o'i chymharu â'r recordiad maes gwreiddiol, mewn rhai cyhoeddiadau a recordiadau.[10]
![\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t
\partial 16*2 a16 b16 % 0
c8 a b g % 1
a a4 a16 b % 2
c8 a b g % 3
a a r16 a16 a16 b % 4
c8 c b b % 5
a b c d % 6
e e d c % 7
c b r16 a a b % 8
c8 a b g % 9
a a4 \bar "|." % 10
}](http://upload.wikimedia.org/score/r/y/ry1iek12peihdy6coq7jrjpziqtfklc/ry1iek12.png)
Yn 1979, creodd Myrddin ap Dafydd drydedd fersiwn o'r geiriau, yn seiliedig ar y syniad ei fod am Glyndŵr, ar gyfer y grŵp gwerin Plethyn a'i rhyddhaodd ar gasét o'r enw 'Blas y Pridd', ac wedi hynny yn 1990 ar gryno ddisg.[11]
Yn ystod dathlu 600 mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr, ysgrifennodd Myrddin ap Dafydd bedwaredd fersiwn gan ychwanegu pum pennill i'r gwreiddiol, o'r enw 'Mawl yr Ehedydd'.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cylchgrawn Alawon Gwerin Cymru (1914) 1:59.
- ↑ Yr Athro E Wyn James (2001) 'Ballad implosions and Welsh folk stanzas'. https://www.caerdydd.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/ballad-implosions
- ↑ Enid Parry (1949) Wyth Gân Werin Caerdydd: Hughes a'i Fab
- ↑ Myrddin ap Dafydd (2004) Canu Gwerin 27:2-5.
- ↑ Caneuon Traddodiadol y Cymry, gol Arfon Gwilym, Menai Williams, Daniel Huws (2006) Penygroes: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, t.61.
- ↑ 100 o Ganeuon Gwerin (2012) gol. Meinir Wyn Edwards, Talybont: Y Lolfa, t.67.
- ↑ A Evans-Jones (1967) Cerddi Cynan, trydydd argraffiad, Lerpwl: Gwasg y Brython, t. 53.
- ↑ Bryn Terfel (2008) Ffair Scarborough. https://www.youtube.com/watch?v=ocqn1xcsGhg]
- ↑ Arfon Gwilym (2018).
- ↑ 100 o Ganeuon Gwerin (2012), gol. Meinir Wyn Edwards, Talybont: Y Lolfa, t.67.
- ↑ Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl (1990) https://www.youtube.com/watch?v=V9i_Y4oGP-A
- ↑ Myrddin ap Dafydd (2004) Canu Gwerin 27:22-5.