Bryn Terfel
Mae Syr Bryn Terfel (ganwyd 9 Tachwedd 1965) yn fariton ac yn ganwr opera byd-enwog. Fe'i ganwyd ym Mhant Glas, Gwynedd. Bu'n canu a chystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn ifanc iawn. Fe'i cysylltwyd ef yn fuan iawn yn ei yrfa gyda gwaith Mozart, yn enwedig Figaro a Leporello, ond ehangwyd ei repertwâr i gynnwys gwaith trymach o lawer megis gwaith Wagner.
Bryn Terfel | |
---|---|
Ganwyd | Bryn Terfel Jones 9 Tachwedd 1965 Pant Glas |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, actor |
Arddull | opera |
Math o lais | bas-bariton |
Priod | Hannah Stone |
Gwobr/au | CBE, The Queen's Medal for Music, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, Echo Klassik Male Singer of the Year, Classic Brit Awards |
Graddiodd o'r Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn 1989, ac enillodd Wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989.
Ers hynny mae wedi canu prif rannau ym mhrif dai opera'r byd gyda chlod uchel. Bryn Terfel yw sefydlydd Gŵyl y Faenol, a gynhelir bob mis Awst ar Stâd y Faenol, ger Bangor.
Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[1][2][3]
Cafodd Syr Bryn ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines y Deyrnas Unedig ar 31 Rhagfyr 2016.[4]
Bywyd personol
golyguPriododd Terfel yn briod a'i gariad o'i blentyndod, Lesley, yn 1987 ond gwahanodd y ddau yn 2013 gan ysgaru yn ddiweddarach. Mae ganddynt tri o fechgyn.[5]
Cychwynnodd berthynas gyda'r delynores Hannah Stone yn 2014. Mae hi'n gyn-delynores swyddogol i Dywysog Siarl. Dyweddïodd y cwpl yn 2016 ac yn Mai 2017 ganwyd merch iddynt.[6] Priododd y cwpl ar 26 Gorffennaf 2019 nghapel y Bedyddwyr, Caersalem Newydd yn Abertawe, tref enedigol Stone.
Repertwâr operatig
golyguDyma'r gwaith a'r cymeriadau mae Bryn wedi eu perfformio ar lwyfan[7]
Cyfansoddwr | Opera | Cymeriad | Dyddiadau | Recordiwyd |
---|---|---|---|---|
Britten | Peter Grimes | Balstrode | 1995 | Naddo |
Donizetti | L'elisir d'amore | Dulcamara | 2001 | Naddo |
Gounod | Faust | Mephistopheles | 2004 | Naddo |
Mozart | Così fan tutte | Guglielmo | 1991 | Naddo |
Mozart | Don Giovanni | Masetto | 1992 | Do |
Mozart | Don Giovanni | Leporello | 1991 | Do |
Mozart | Don Giovanni | Don Giovanni | 1999 – | Do |
Mozart | Die Zauberflöte | Speaker | 1991 | Naddo |
Mozart | Le nozze di Figaro | Figaro | 1991 – 2007 | Do |
Offenbach | Les contes d'Hoffmann | Four male roles | 2000 | Naddo |
Puccini | Gianni Schicchi | Gianni Schicchi | 2007 | Naddo |
Puccini | Tosca | Scarpia | 2006 | Naddo |
Puccini | Madama Butterfly | Sharpless | 1996 | Naddo |
Richard Strauss | Die Frau ohne Schatten | Der Geisterbote | 1992 | Do |
Richard Strauss | Salome | Jochanaan | 1993 | Do |
Sondheim | Sweeney Todd | Sweeney Todd | 2002 – | Naddo |
Stravinsky | The Rake's Progress | Nick Shadow | 1996 – 2000 | Do |
Stravinsky | Oedipus Rex | Creon | 1992 | Do |
Verdi | Falstaff | Falstaff | 1999 – | Do |
Verdi | Falstaff | Ford | 1993 | Naddo |
Wagner | Das Rheingold | Donner | 1993 | Naddo |
Wagner | Das Rheingold | Wotan | 2005 – | Naddo |
Wagner | Die Walküre | Wotan | 2005 – | Naddo |
Wagner | Tannhäuser | Wolfram | 1998 | Naddo |
Wagner | Der fliegende Holländer | Holländer | 2006 – | Naddo |
Disgyddiaeth
golygu- Something Wonderful (1996)
- We'll Keep a Welcome (2000)
- Some Enchanted Evening (2001)
- Bryn (2003)
- Simple Gifts (2005)
- Tutto Mozart (2006)
- First Love: Songs from the British Isles (2008)
- Carols and Christmas Songs (2010)
- Homeward Bound (gyda Chôr Tabernacl y Mormoniaid; Mormon Tabernacle Choir) (2013)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
- ↑ Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
- ↑ Golwg360
- ↑ Terfel yn datgelu effaith ei yrfa ar ei deulu , Golwg360, 12 Awst 2013. Cyrchwyd ar 27 Gorffennaf 2019.
- ↑ Merch fach – Lili Alaw – i Bryn Terfel a Hannah Stone , Golwg360, 5 Mai 2017. Cyrchwyd ar 27 Gorffennaf 2019.
- ↑ (Saesneg) [1] Archifwyd 2018-11-30 yn y Peiriant Wayback "Bryn Terfel Opera Repertoire" gan y cyhoedwr "Harlequin Agency Limited", 2008-06-18