Myrddin ap Dafydd
Prifardd, golygydd a chyhoeddwr o Gymru yw Myrddin ap Dafydd (ganwyd 25 Gorffennaf 1956). Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2024.
Myrddin ap Dafydd | |
---|---|
Myrddin ap Dafydd yn 2007 | |
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1956 Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Tad | Dafydd Parri |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.
Gyrfa
golyguSefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.[1] Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd.[2] Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.
Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen.[3] Yn 2020 bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod oherwydd pandemig COVID-19 a cytunodd yr Orsedd i ymestyn ei gyfnod am flwyddyn ychwanegol.[4]
Bywyd personol
golyguMae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018.
Gwaith
golyguCerddi a Barddoniaeth
golygu- Llyfr Caneuon Tecwyn y Tractor (Rhys Parry, Myrddin ap Dafydd, Trefn. Guto Pryderi Puw) (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
- Pen Draw'r Tir (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
- Denu Plant at Farddoniaeth: Pedwar Pŵdl Pinc a'r Tei yn yr Inc (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
- Denu Plant at Farddoniaeth: Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ... (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
- Jam Coch Mewn Pwdin Reis (Hughes a'i Fab, 2000)
- Syched am Sycharth: Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
- Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
- Clawdd Cam (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
- Clywed Cynghanedd: Cwrs Cerdd Dafod (Gwasg Carreg Gwalch, 1994; 2/2003)
- Cerddi Cyntaf (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Llyfrau Plant Cymraeg
golygu- Cyfres y Llwyfan: Ar y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch, 1982)
- Cyfres y Llwyfan: Ail Godi'r To (Gwasg Carreg Gwalch, 1986)
- Gweld Cymru: Hwyl wrth Ddod i Adnabod Gwlad (Gwasg Carreg Gwalch, 1998)
- Golau ar y Goeden: Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
- Syniad Da Iawn! (Sioned Wyn Huws, Myrddin ap Dafydd, Haf Llewelyn, Martin Morgan, Eleri Llewelyn Morris) (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
- Cyfres Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr y Brodyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 1: Straeon y Tylwyth Teg (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 2: Ogof y Brenin Arthur (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 3: Gelert, Y Ci Ffyddlon (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 4: Barti Ddu Môr-leidr o Gymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Odl-Dodl Dolig (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 5: Meini Mawr Cymru(Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 6: Draig Goch Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Mae'r Lleuad yn Goch (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
- Goron yn y Chwarel (Gwasg Carreg Gwalch, 2019)
- Drws Du yn Nhonypandy (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Ffoi Rhag y Ffasgwyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2022)
- Nadolig y Gath yn Sain Ffagan (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
- Mistar ar Fistar Mostyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
Llyfrau Plant Saesneg
golygu- Tales from Wales 1: Fairy Tales from Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Tales from Wales 2: King Arthur's Cave (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Tales from Wales 3: The Faithful Dog Gelert (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Tales from Wales 4: Black Bart (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
- Tales from Wales 5: Stories of the Stones (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Tales from Wales 6: The Red Dragon of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Llyfrau Oedolion
golygu- Llyfrau Llafar Gwlad: 37. Enwau Cymraeg ar Dai (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)[5]
- Circular Walks e.e. "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks" [6]
- Cyfres "Welcome to..." e.e. "Welcome to Bermo (Barmouth)"[7]
Crynoddisgiau
golygu- Caneuon Tecwyn y Tractor (Cwmni Recordiau Sain, 2004)
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- Bardd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1974
- Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990
- Bardd Plant Cymru 2000
- Gwobr Tir na n-Og 2001 Gyda'r Llyfr Jam Coch Mewn Pwdin Reis, (Hughes a'i Fab)
- Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002
- Archdderwydd Cymru 2019-2021
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ "Academi.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
- ↑ Myrddin ap Dafydd ydi Archdderwydd nesaf Cymru , Golwg360, 7 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar ôl gohirio'r Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 7 Awst 2020. Cyrchwyd 15 Awst 2023.
- ↑ Llafar Gwlad[dolen farw]
- ↑ "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
- ↑ "Welcome to Bermo (Barmouth)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-12. Cyrchwyd 2010-09-26.