Mary Anne Disraeli

Roedd Mary Anne Disraeli, Is-iarlles 1af Beaconsfield (née Evans 11 Tachwedd 1792 - 15 Rhagfyr 1872) yn aelod o'r bendefigaeth ac yn ffigwr cymdeithasol, bu'n wraig i'r gwleidyddion Wyndham Lewis a Benjamin Disraeli.

Mary Anne Disraeli
Ganwyd11 Tachwedd 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1872 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Swyddpriod i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Evans Edit this on Wikidata
MamEleanor Scrope Viney Edit this on Wikidata
PriodBenjamin Disraeli, Wyndham Lewis Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu
 
Hughenden, cartref y teulu Disraeli

Ganed Evans yn Brampford Speke, ger Caerwysg yn Nyfnaint, yn unig ferch y Comander John Viney-Evans a'i wraig a chyfnither Eleanor Scrope-Viney (Mrs Eleanor Yate yn ddiweddarach). Roedd Mary Anne yn nith i'r Cadfridog Syr James Viney, tirfeddiannwr mawr gydag ystadau yn swydd Caerloyw a Morgannwg. Gan fod Syr James yn di blant brawd Mary Anne, y Cyrnol John Viney Evans, oedd ei etifedd tybiedig. Pan fu farw John ym 1834 daeth Mary Anne yn etifedd i'r ffortiwn enfawr yn ei le.

Ym 1815 yn Clifton, Bryste priododd Mary â Wyndham Lewis. Roedd Lewis yn dirfeddiannwr cefnog o Dongwynlais ac yn un o berchenogion gwaith haearn Dowlais. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Caerdydd rhwng 1820 a 1826, AS Aldeburgh rhwng 1827 a 1829 a Maidstone rhwng 1835 a 1838.[1] Trwy gydol ei phriodas a Lewis, Mary Anne fu'n gyfrifol am weinyddu ystadau ei gŵr. Roedd ei gŵr oddi cartref lawer o'r amser, tra treuliodd Mary Anne ei dyddiau yn cynnal partïon ac yn difyrru eu ffrindiau. Ac o'i gohebiaeth sydd wedi goroesi mae'n amlwg bod Mary Anne wedi mwynhau nifer o berthnasau rhywiol gyda dynion ei chylch cymdeithasol, yn briod ac yn sengl, heb lawer o sylw gan ei gŵr oedrannus.[2]

Roedd Maidstone yn etholaeth a oedd yn dychwelyd dau aelod i'r senedd. Ym 1837 etholwyd Benjamin Disraeli yn gyd aelod â Lewis dros yr etholaeth. Roedd Disraeli yn gyfeillgar â Lewis a thalodd Lewis ei gostau etholiadol. Roedd Disraeli wedi cwrdd â Mary Anne bum mlynedd ynghynt, pan ddisgrifiodd hi fel clec-wraig a fflyrt, ond wedi dod yn gyd aelod seneddol a'i gŵr gwellodd y berthynas rhyngddynt.[3]

Ym mis Awst 1839, y flwyddyn ar ôl marwolaeth Lewis, priododd â Disraeli yn Eglwys St George, Sgwâr Hanover, Llundain. Caniataodd ei ffortiwn hi i'w gŵr newydd brynu ystâd Hughenden yn Swydd Buckingham a byw fel gŵr bonheddig o Sais.[4]

I gydnabod gwasanaeth Disraeli i'r genedl, roedd y Frenhines Victoria yn dymuno ei ddyrchafu i'r bendefigaeth ar ddiwedd ei brifweinidogaeth gyntaf. Fodd bynnag, gan ei fod yn dymuno aros yn Nhŷ’r Cyffredin, derbyniodd ei wraig y teitl yn ei le a chafodd ei chreu yn Is-iarll Beaconsfield, o Beaconsfield yn Swydd Buckingham, ar 30 Tachwedd 1868.[5] (Ar ôl marwolaeth Mary, derbyniodd Disraeli y teitl Iarll Beaconsfield.)

Roedd Fictoriaid parchus yn aml yn cael eu sgandaleiddio gan sgwrs ddi-rwystr Mary ond buan y dysgon nhw beidio â’i sarhau yng nghlyw Disraeli.[6] Dywedwyd bod hyd yn oed y Frenhines Victoria wedi ei synnu pan wnaeth Mary Anne sylw, mewn ymateb i sylw am wedd welw rhyw fenyw, "Hoffwn pe gallech weld fy Dizzy yn ei faddon!" Unwaith, mewn parti tŷ lle'r oedd yr Arglwydd Hardinge, milwr mawr y dydd, yn yr ystafell nesaf i'r Disraelis, cyhoeddodd Mary Anne amser brecwast ei bod wedi cysgu'r noson cynt rhwng y milwr mwyaf (Hardinge) a'r areithiwr mwyaf (Disraeli) o'u hoes: yn bendant ni chafodd Lady Hardinge ei difyrru gan y sylw.[7]

 
Beddrod teulu Disraeli, Hughenden

Roedd hi'n gymorth mawr i'w gŵr wrth olygu'r llyfrau a ysgrifennodd, a threuliodd 30 mlynedd yn gofalu amdano.[8] Fe wnaeth hi gellwair yn gyhoeddus unwaith y byddai, er ei fod wedi ei phriodi am ei harian, yn ei wneud eto er cariad.[9] Yn ddiweddarach yn ei bywyd daeth yn fwyfwy ecsentrig, o ran sgwrs ac ymddangosiad, ond ni wnaeth defosiwn a theyrngarwch ei gŵr iddi fyth fethu.[10] Roedd hi ryw ddeuddeg mlynedd yn hŷn na'i gŵr ond parhaodd eu rhamant hyd y diwrnod y bu farw.[11]

Marwolaeth

golygu

Yng ngwanwyn 1872 aeth Mary yn ddifrifol wael, ac erbyn mis Mai roedd yn amlwg ei bod yn marw o ganser y stumog. Fe wnaeth hi wella’n ddigonol i fynd ar daith haf drwy’r Siroedd Cartref gyda’i gŵr. Ym mis Tachwedd roedd hi'n teimlo'n ddigon da i gynnal parti cinio bach i'w ffrindiau agos; ond dirywiodd ei chyflwr a bu farw ar 15 Rhagfyr, yn bedwar ugain oed.[12]

Cafodd ei chladdu gyda Disraeli mewn claddgell yn Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Hughenden, yn Hughenden, Swydd Buckingham, yn agos at gartref y teulu Disraeli.[13] Mae eu cartref bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae wedi'i gadw yn y modd ydoedd pan oedd y Disraelis yn byw ynddo. Mae ar agor i'r cyhoedd fel atyniad i ymwelwyr.[14]

Arfbais

golygu
Arfbais Mary Anne Disraeli
 
 
Coronet
Coronet Is-iarlles
Escutcheon
Slip o winwydden Arian wedi'i ffrwytho a'i ollwng yn iawn rhwng dwy ystlys Sabl pob un wedi'i llwytho gan Ben Baedd y maes
Cefnogwyr
Dehau: Eryr Aur; Aswy: Llew, hefyd yn Aur, pob un wedi'i orchuddio â Choler coch ynghrog oddi arno Arfau o'r olaf wedi'i lwytho o dwr Arian
Arwyddair
Forti Nihil Difficile (Nid oes dim yn anodd i'r cryf)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "LEWIS, WYNDHAM (1780 - 1838), A.S. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-11-20.
  2. "Disraeli, Mary Anne (1792–1872) | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-11-20.
  3. Hurd, Douglas (2013). Disraeli, or, The two lives : a biography. Llundain: W&N. t. 97. ISBN 978-0-297-86097-6. OCLC 810947174.
  4. "Disraeli [née Evans; other married name Lewis], Mary Anne, Viscountess Beaconsfield (1792–1872), political wife". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/39791. Cyrchwyd 2020-11-20.
  5. "NEWS OF THE WEEK - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1868-12-05. Cyrchwyd 2020-11-20.
  6. Hesketh Pearson Dizzy- the life and personality of Benjamin Disraeli, Earl of Beaconsfield Harper Collins New York 1951 p.214
  7. Hay, Daisy (2015-01-09). "A political romance: Benjamin and Mary Anne Disraeli". The Guardian. Cyrchwyd 2018-08-24.
  8. Pearson p.75
  9. Kirsch, Adam, Benjamin Disraeli (Knopf Doubleday Publishing Group, 2008), p.106
  10. Pearson, p214
  11. Pearson p.214
  12. "THE LATE LADY BEACONSFIELD - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1872-12-20. Cyrchwyd 2020-11-20.
  13. "FUNERAL OF LADY BEACONSFEILD - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1872-12-20. Cyrchwyd 2020-11-20.
  14. "Hughenden Manor". National Trust. Cyrchwyd 11 April 2012.