Agor y brif ddewislen

Mary Davies (Mair Eifion)

bardd (Mair Eifion)

Roedd Mary Davies (Mair Eifion) (17 Hydref 18468 Hydref 1882) yn dafarnwraig ac yn fardd Cymreig a oedd yn ymgyrchu tros gydnabyddiaeth deilwng i gyfraniad beirdd a llenorion benywaidd Cymru[1].

Mary Davies
Mair-Eifion.jpg
Ganwyd 17 Hydref 1846 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Hydref 1882 Edit this on Wikidata (35 oed)
Porthmadog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cynnwys

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Mary Davies ym Mhorthmadog yn ferch i'r Capten Lewis Davies a Jennet (cynt Ellis) ei wraig. Roedd Capten Lewis yn forwr a oedd hefyd yn cadw Tafarn y Tregunter yn ardal y cei Porthmadog. Er nad yw'n dafarn bellach mae'r adeilad yn dal i sefyll ac yn Adeilad Rhestredig Gradd II[2]. Wedi marw Capten Davies fu Mair yn cynorthwyo ei fam i redeg y dafarn.

Cafodd ei addysgu yn breifat mewn ysgol a gadwyd gan ferch Gwilym Hiraethog

Ni fu yn briod.

Gyrfa lenyddolGolygu

Roedd tad Mair Eifion yn brydydd gwlad poblogaidd ac fe fagodd ef ddiddordeb yn yr awen yn ei ferch. Cafodd hi addysg farddol bellach gan Ioan Madog a'r Prifardd Emrys[3]. Cyhoeddwyd peth o'i cherddi yn y cylchgrawn Y Dysgedydd a olygid gan Emrys. Yn wahanol i nifer o feirdd benywaidd ei chyfnod ni chafodd ei chyhoeddi yn y cylchgronau ar gyfer benywod; roedd y cylchgronau hyn yn rhoi bri mawr i ddirwest a gwaith Undebau Dirwest y Merched; fel merch tŷ tafarn doedd dim croeso iddi a'i chysylltiadau a'r ddiod felltith yn y cylchgronau[4].

Bu Mair Eifion yn cystadlu'n llwyddiannus yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol. Cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd fel Barddones, yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1875[5].

Bu llawer o waith Mair Eifion yn pwysleisio enw da merched Cymru a phwysigrwydd cyfraniad merched i'r byd llenyddol (Myn enw werth ei gerfio.... / A dyro brawf yn eglur / Fod merch yn meddu dawn). Roedd hi am greu cymdeithas i feirdd a llenorion benywaidd Cymreig i roi mwy o gyhoeddusrwydd i'r sawl oedd eisoes yn llenydda ac i annog eraill i wneud[6]. Oherwydd gwrthwynebiad rhai o'i chyfoedion benywaidd i'w cysylltiadau a'r dafarn a thrwy ei farwolaeth ifanc ni wireddwyd ei breuddwyd.

MarwolaethGolygu

Bu farw yn Nhafarn Tregunter yn 35 mlwydd oed. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent capel yr Annibynwyr, Soar, Talsarnau[7].

CyhoeddiadauGolygu

Cyhoeddwyd Blodau Eifion, gwaith barddonol Mair Eifion, golygydd Gwilym Eryri (William Roberts) ym 1885.

CyfeiriadauGolygu

  1. Y Bywgraffiadur DAVIES , MARY (‘ Mair Eifion ’; 1846 - 1882 ), bardd adalwyd 22 Mawrth 2018
  2. Tregunter, including forecourt railings and gate A Grade II Listed Building in Porthmadog, Gwynedd adalwyd 22 Mawrth 2018
  3. Cymru Cyfrol 54, 1918 Tud 83 Gwyr Eifionnydd adalwyd 22 Mawrth 2018
  4. Nineteenth-Century Women's Writing in Wales, Nation, Gender, Identity – Jane Aaron; Gwasg Prifysgol Cymru 2010 ISBN 9780708320600
  5. "EISTEDDFOD FREINIOL GENEDLAETHOL PWLLHELI - Llais Y Wlad". Kenmuir Whitworth Douglas. 1875-09-03. http://hdl.handle.net/10107/3573887. Adalwyd 2018-03-22.
  6. "BARBARA JONES A'R BEIRDDESAU CYMREIG - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1878-06-27. http://hdl.handle.net/10107/4584117. Adalwyd 2018-03-22.
  7. "PORTHMADOG - Y Dydd". William Hughes. 1882-10-13. http://hdl.handle.net/10107/3154423. Adalwyd 2018-03-22.