John Williams (Ioan Madog)
Bardd Cymraeg a gof oedd John Williams (3 Medi 1812 – 5 Mai 1878), a adnabyddid wrth ei enw barddol Ioan Madog.[1]
John Williams | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Madog |
Ganwyd | 3 Medi 1812 |
Bu farw | 5 Mai 1878 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gof |
Tad | Richard Williams |
Bywgraffiad
golyguGaned Ioan Madog yn y Bontnewydd ger Rhiwabon, cartref ei rieni, Richard ac Elinor Williams, ar y pryd. Ymhen tua naw mlynedd, sef tua'r flwyddyn 1821, symudodd y teulu i'r cartref gwreiddiol yn Nhremadog. Gof oedd tad y bardd a dysgodd yntau y grefft ganddo wrth brifio.[1]
Bu mewn ysgol am dymor yn Nhremadog ac, yn ddiweddarach, mewn ysgolion yn Sir Ddinbych ac wedyn yn nhref Caernarfon; peth anghyffredin pryd hynny oedd i fab crefftwr gael addysg ffurfiol fel hyn. Glynnodd wrth grefft ei dad er hynny gan ennill enw am ei waith. Dywed y bardd Thomas Jones (Cynhaiarn) fod iddo gryn fedr yn gwneud offer haearn i'w defnyddio ar y llongau a adeiledid ym Mhorthmadog.[1]
Bu farw ar y 5ed o Fai 1878 a chafodd ei gladdu ym mynwent Ynyscynhaearn.
Barddoni
golyguBu'n barddoni er yn gynnar yn ei oes. Pan dyfodd i fyny dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau. Fe'i urddwyd yn fardd yn eisteddfod y Bala, 1836. Cafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion yn eisteddfodau Aberffraw, 1849, Rhuddlan, 1850, eisteddfod Madog, 1851, a sawl un arall. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi gyda chofiant iddo yn 1881.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Gwaith Barddonol Ioan Madog ynghyd â Bywgraffiad o'r awdwr, a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd y genedl (Pwllheli, 1881 )
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur Cymreig, gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.