Mastermind (cyfres deledu)
Rhaglen gwis Brydeinig sy'n enwog am ei chwestiynau heriol, ei set a'i naws ddifrifol yw Mastermind. Cyflwynydd y cyfres ers 2003 yw John Humphrys.
Dyfeisiwyd y rhaglen gan Bill Wright, ac nid yw fformat cyffredinol y rhaglen erioed wedi newid. Mae pedwar, ac yn fwy diweddar pum cystadleuydd yn ateb dwy rownd o gwestiynau, y cyntaf am eu pwnc arbenigol a'r ail yn rownd o wybodaeth gyffredinol. Cafodd Wright ei ysbrydoliaeth o'i brofiafau o gael ei groesholi gan y Gestapo yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Caiff awyrgylch y rhaghlen ei ddwysau gan y gerddoriaeth agoriadol o'r enw "Approaching Menace" gan y cyfansoddwr Prydeinig Neil Richardson. Yn wreiddiol ffgilmwyd y rhaglen ym Manceinion mewn stiwdios megis New Broadcasting House a Granada Studios, cyn symud yn barhaol i The Studios, MediaCity yn 2011.
Philip Jenkins o Bort Talbot oedd y pencampwr Mastermind yn 1979.