John Humphrys
Mae Desmond John Humphrys (ganwyd 17 Awst 1943) yn awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd radio a theledu Cymreig. O 1981 i 1987 roedd yn brif gyflwynydd Newyddion Naw o'r Gloch, prif raglen newyddion Prydeinig y BBC. Rhwng 1987 a 2019 roedd yn cyflwyno rhaglen arobryn BBC Radio 4, Today. Ers 2003 mae wedi bod yn gyflwynydd y cwis teledu "anoddaf un" – Mastermind.
John Humphrys | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1943 Y Sblot |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Priod | Valerie Sanderson |
Mae gan Humphrys enw da fel cyfwelydd dygn a phlaen; o bryd i'w gilydd mae gwleidyddion wedi bod yn feirniadol iawn o'i arddull ar ôl cael eu cyfweld yn llym ganddo ar radio a theledu byw.[1]
Cefndir
golyguCafodd Humphrys ei eni yn Pearl Street, Sblot, Caerdydd yn fab i Edward George Humphrys, Cwyrydd Ffrenig, a Winifred Mary (cynt Matthews), triniwr gwallt. Roedd yn un o bump o blant. Brawd iddo oedd Bob Humphrys gohebydd chwaraeon BBC Cymru.[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd gan adael yr ysgol yn 15 oed i gychwyn gyrfa yn y byd newyddiadurol.
Gyrfa
golyguAr ôl gadael yr ysgol cafodd ei benodi'n ohebydd dan hyfforddiant ar y Penarth Times cyn cael ei benodi yn gyw ohebydd ar y Western Mail ac yna'n ohebydd teledu ar TWW. Ymunodd â'r BBC ym 1966 fel gohebydd rhanbarthol Lerpwl a gogledd orllewin Lloegr, cyn cael ei ddyrchafu'n ohebydd tramor. Fel gohebydd tramor fu'n gyfrifol am ohebu'r newyddion am ymddiswyddiad Richard Nixon o arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Ym 1981 daeth yn brif angor rhaglen Newyddion Naw y BBC gan gadw'r swydd hyd 1987 pan gafodd ei benodi'n brif gyflwynydd rhaglen newyddion Today ar Radio 4 fel olynydd i John Timpson. O 1993 hyd 2003 bu'n gyflwynydd y rhaglen deledu On The Record [3] Cyhoeddodd yn Chwefror 2019 y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno Today gan ddweud y dylai fod wedi gadael "flynyddoedd yn ôl". Darlledodd ei sioe olaf ar fore 19 Medi 2019.[4]
Cyhoeddiadau
golygu- Devil's Advocate. London: Arrow Books Ltd. (2000). ISBN 0-09-927965-7
- The Great Food Gamble. London: Coronet Books. (2002). ISBN 0-340-77046-5
- Lost For Words: The Mangling and Manipulating of the English Language. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2004). ISBN 0-340-83658-X.
- Beyond Words: How Language Reveals the Way We Live Now. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2006). ISBN 0-340-92375-X.
- In God We Doubt: Confessions of a Failed Atheist. London: Hodder & Stoughton Ltd. (2007). ISBN 0-340-95126-5.
- "Blue Skies & Black Olives" London; Hodder & Stoughton Ltd (2009). ISBN 978-0-340-97882-5
- John, Humphrys; Jarvis, Sarah (2009-04-02). The Welcome Visitor: Living Well, Dying Well (arg. 1st). Hodder & Stoughton. ISBN 0-340-92377-6.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [1] Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 16 Mai 2015
- ↑ ‘HUMPHRYS, John’, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Tachwedd 2014 Adalwyd 16 Mai 2015
- ↑ Gwefan www.bbc.co.uk; Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mai 2015
- ↑ John Humphrys yn beirniadu gwleidyddion sy’n osgoi cyfweliadau. Golwg360 (19 Medi 2019).