Brand teganau o Loegr yw Matchbox a gyflwynwyd gan gwmni Lesney Products yn 1953. Cychwynwyd y cwmni gan Leslie Smith yn 1947 ac mae nawr yn rhan o Mattel, Inc.[1] Y tri a ddylanwadodd fwyaf ar y cwmni a'r brand oedd John W. "Jack" Odell (1920–2007),[2] Leslie Charles Smith (1918–2005),[3] a Rodney Smith (cyfuniad yw'r enw "Lesney", o Les-lie a Rod-ney).

Matchbox
Enghraifft o'r canlynolbrand Edit this on Wikidata
Mathdie-cast toy Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCorgi Toys, Hot Wheels, Tyco Toys, Lesney Products, Dinky Toys Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1953 Edit this on Wikidata
PerchennogLesney Products, Tyco Toys, Mattel Edit this on Wikidata
Cynnyrchmodel car, model commercial vehicle, slot car racing Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.matchbox.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Prosiect enwocaf Lesney Products oedd ceir "Matchbox" a gychwynwyd yn 1953 pan ofynodd merch un o berchnogion y cwmni, sef Jack Odell, iddo greu tegan a oedd yn ffitio i mewn i focs matsys iddi gael mynd ag e i'r ysgol. Felly creuwyd y "Royal State Coach." Roedd y cynnyrch yn llwyddiannus iawn, lansiwyd y brand, a chreuwyd nifer o geir "Matchbox", sy'n cael eu cynhyrchu hyd at heddiw (2019).[1]

Y dyddiau cynnar golygu

 
Foden Breakdown Tractor o'r 60au

Ar ôl ei lwyddiant cynnar yn 1953, roedd nifer o fodelau gwahanol ar gael gan Lesney. Roeddynt yn enwog am fod yn ofnadwy o gryf gyda dwy echel drwchus a chadarn. Metel alloy alwminiwm oedd y car ei hun a'r plat gwaelod, ond plastig oedd y tu mewn a'r ffenestri.

Problem golygu

Yn 1968, creuwyd ceir "Hotwheels" gan gwmni Mattel yn 1968. Roedd y ceir hyn yn symud yn llawer cyflymach na Matchbox oherwydd roedd y "Redlines" hyn yn gwneud defnydd o echel dennau iawn ac roedd 'bearing' bach yn cysylltu rhain i'r olwyngion. Gwerthwyd y ceir yma'n llawer iawn cyflymach na Matchbox oherwydd eu bod yn fwy modern ac yn gyflymach.[1]

Superfast golygu

 
Matchbox Superfast -9 AMX Javelin

Matchbox i'r Hotwheels oedd gwneud yr un peth i'w ceir eu hunain a'u galw'n "Superfast." Roedd y rhan fwyaf o'r ceir yr un rhai neu yn debyg ond wedi cael eu moderneiddio. Roedd y Superfast yn fwy lliwgar, yn fwy Americanaidd ac yn gynt na cheir gwreiddiol y cwmni. Gweithiodd y syniad newydd ac roedd Matchbox yn ôl ar y ffordd! Gwerthwyd y Superfast yn well nag erioed yn America gan eu bod yn mor Americanaidd a dramatig. Er i'r Superfast fod mor boblogaidd i ddechrau, aeth pethau i lawr allt yn eithaf cyflym. Erbyn 1981, roedd dyfodol "Matchbox" yn y fantol. Erbyn 1982, aeth Lesney yn fethdalwr a gorfodwyd y cwmni i werthu popeth i dalu ei dyledion. Un o'r pethau a werthwyd oedd yr enw, a'r brand, "Matchbox".

Cychwyn newydd Mattel golygu

 
Matchbox o'r presenol

Prynwyd yr enw gan nifer o gwmniau ond yn diwedd prynwyd gan Mattel ei hunnain, y rheswm bu farw Lesney yn y lle cyntaf. O dan ei rheolaeth lladdwyd yr enw "Superfst" ond cadwywyd popeth arall tua yr un fath. Syniad Mattel oedd i gael Hotwheels fel cwmni ceir cyflym, gwyllt, a Matchbox fel ei cwmni ceir mwy realistig. Gweithiodd y cynllyn yma a cadwyd yr enw "Matchbox" gan Mattel a creuwyd nifer fawwr o gastiau newydd trwy'r 80'au i fynny at y presenol.

Matchbox yn 2019 golygu

Nawr mae Matchbox gwreiddiol yn gallu bod yn werthfawr iawn, yn enwedig y rhai creuwyd rhwng yr oes olwyngion du a'r oes Superfast. Mae rhai o'r rhain mewn lliwiau unigriw neu yn cynnwys olwyngion anghywir. Gwerthwyd y matchbox hyn am filoedd o bunnoedd mewn ocsiynnau.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Dana Johnson, Matchbox Toys 1947-2003, tt. 6-8, ISBN 1-57432-393-8 (4ydd argr. 2004.
  2. New York Times 17 Gorffennaf 2007
  3. www.fcarahan.com