Mater gronynnol
Mae mater gronynnol yn gymysgedd cymhleth o solidau a hylifau, gan gynnwys carbon, cemegau organig cymhleth, sylffadau, nitradau, llwch mwynol, a dŵr yn yr aer. Mae’n amrywio mewn maint. Mae rhai gronynnau, fel llwch, huddygl, baw neu fwg yn ddigon mawr neu’n ddigon tywyll i ni eu gweld gyda’n llygaid ein hunain. Ond y gronynnau mwyaf niweidiol yw’r gronynnau llai, sef PM10 a PM2.5. Mae PM10 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 10 micron (10μm) – sef 10 miliynfed o fetr. Mae PM2.5 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 2.5 micron, ac enw’r rhain yw gronynnau mân. Mae’r gronynnau mân lleiaf, llai na 0.1 micron mewn diamedr, yn cael eu galw’n gronynnau tra mân.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3d/Airborne-particulate-size-chart_cy.svg/380px-Airborne-particulate-size-chart_cy.svg.png)
Daw mater gronynnol ‘gwneud’ yn bennaf o brosesau diwydiannol, gwaith adeiladu, mwg o beiriannau disel a phetrol, ffrithiant o frecio a theiars, a llwch o arwynebau ffordd. Mae injan ddisel yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy nag injan betrol. Mae llosgfynyddoedd, diferion o’r môr, paill a phridd yn ffynonellau mater gronynnol. Caiff hefyd ei ffurfio yn yr atmosffer pan fydd nwyon fel nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yn cael eu newid yn yr aer gan adweithiau cemegol.
Effeith ar eich iechyd
golyguMaint y mater gronynnol sy’n penderfynu ble yr aiff unwaith y caiff ei anadlu. Gall gronynnau mwy gael eu dal yn eich trwyn, ond gall PM10 gyrraedd eich llwybrau anadlu. Gall gronynnau mân (PM2.5) gyrraedd y codenni anadlu yn ddwfn yn eich ysgyfaint, a gall gronynnau hynod fân hyd yn oed groesi i lif y gwaed. Gall cemegau gwenwynig fod yn y gronynnau hyn, ac mae cysylltiad rhyngddynt â chanser. Gall mater gronynnol lidio eich trwyn a’ch gwddf, a gall fod yn gysylltiedig â symptomau mwy difrifol mewn pobl sydd ag asthma. Mae’n golygu bod mwy o bobl sydd â chyflwr ar eu hysgyfaint (COPD, asthma, broncitis) a chyflwr ar eu calon (trawiad y galon, strôc) yn mynd i’r ysbyty. Mae hefyd yn achosi i bobl farw’n gynnar o glefyd yr ysgyfaint a’r galon hefyd. Mae tystiolaeth hefyd bod anadlu mater gronynnol, yn y tymor hir, yn gallu cyfrannu at ddatblygu canser yr ysgyfaint ac asthma o bosib.
Gweler hefyd
golygu
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr [ erthygl wreiddiol] gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |