"Mesur effaith gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd, yn nhermau faint o nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir, wedi ei fesur mewn unedau o garbon deuocsid"[1] yw ôl troed carbon. Mae wedi ei ddylunio i fod yn gymorth i unigolion, gwledydd a sefydliadau allu cael cysyniad o'u effaith ersonol (neu effaith eu sefydliad) i gyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae'r ymateb i'r broblem o ôl troed carbon yn cynnwys cynlluniau gosod yn erbyn carbon, neu leihau'r carbon drwy ddatblygu cunlluniau amgen megis ynni solar, wynt neu coedwigaeth cynaladwy. Mae'r ôl troed carbon yn is-set o ôlion troed ecolegol, sy'n cynnwys yr holl alw a roddir ar y biosffer gan ddyn.

Ôl troed carbon
Enghraifft o'r canlynolcysyniad Edit this on Wikidata
MathClimate footprint, ecological footprint Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

Dolenni allanol golygu


Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato