Mathonwy Hughes
bardd a llenor Cymraeg
Bardd a llenor Cymraeg oedd Mathonwy Hughes (24 Chwefror 1901 - Mai 1999). Ganed ef ym mhlwyf Llanllyfni yng Ngwynedd, yn fab i chwarelwr, Joseph Hughes, a'i wraig Ellen. Roedd Robert Roberts (Silyn) yn ewythr iddo.
Mathonwy Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1901 Llanllyfni |
Bu farw | Mai 1999 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, golygydd |
Cysylltir gyda | Y Faner |
Perthnasau | R. Silyn Roberts |
Bywgraffiad
golyguYn saith oed aeth i Ysgol Gynradd Nebo ond bu'n wael, yn rhy wael i fynychu Ysgol y Sir ym Mhen-y-groes; ond cafodd fynd i'r ysgol yng Nghlynnog - siwrnai o 10 milltir ar droed.[1]
Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd 1977. Fel ei ewythr, bu'n weithgar iawn gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 am ei awdl ysgafn Gwraig, a chyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth ac ysgrifau.
Llyfryddiaeth
golygu- Amell Ganu (1957)
- Corlannau (1971)
- Myfyrion (1973)
- Creifion (1979)
- Dyfalu (1979)
- Awen Gwilym R. (1980)
- Gwin y Gweunydd (1981)
- Atgofion Mab y Mynydd (1982, hunangofiant)
- Chwedlau'r Cynfyd (1983)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Nantlle.com; awdur: O. P. Hughes; adalwyd 13 Mai 2013.