Clynnog Fawr

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Clynnog)

Pentref a chymuned (wrth yr enw swyddogol Clynnog) yng Ngwynedd, Cymru, yw Clynnog Fawr[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Clynnog-fawr. Saif ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog Fawr ar ffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, cyfeiriad OS SH415500. Yn 1991 yr oedd y boblogaeth yn 130.

Clynnog Fawr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0209°N 4.3647°W, 53.020158°N 4.364447°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000057 Edit this on Wikidata
Cod OSSH414496 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Hanes golygu

Saif Clynnog mewn safle strategol bwysig, ar ben gogleddol y llwybr hawddaf trwy'r mynyddoedd rhwng arfodir deheuol ac arfordir gogleddol Llŷn. Bu nifer o frwydrau yn y cylch, yn cynnwys Brwydr Bron yr Erw yn 1075 pan orchfygwyd ymgais gyntaf Gruffudd ap Cynan i ddod yn frenin Gwynedd gan Trahaearn ap Caradog a Brwydr Bryn Derwin yn 1255 pan orchfygodd Llywelyn ap Gruffudd ei frodyr Owain a Dafydd i gymeryd meddiant o holl deyrnas Gwynedd.

Mae siambr gladdu Neolithig Bachwen rhwng y pentref a'r môr.

Eglwys Sant Beuno golygu

Y prif adeilad o ddiddordeb yn y pentref yw Eglwys Sant Beuno, sy'n adeilad anarferol o fawr i bentref o faint Clynnog. Dywedir fod clas mynachol wedi ei sefydlu gan Beuno yma yn nechrau'r 7c. Datblygodd i fod yn sefydliad pwysig, ac mae rhai o lawysgrifau Cyfraith Hywel Dda yn nodi fod gan abad Clynnog hawl i sedd yn llys brenin Gwynedd. Cofnodir fod yr eglwys wedi ei llosgi gan y Daniaid yn 978 ac yn ddiweddarach llosgwyd hi eto gan y Normaniaid. Erbyn diwedd y 15g yr oedd yn eglwys golegol, un o ddim ond chwech yng Nghymru. Roedd yr eglwys yn arosfan bwysig i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, ac mae'n cynnwys Cyff Beuno, hen gist bren wedi ei naddu o un darn o onnen, a ddefnyddid i gadw rhoddion y pererinion. Yma hefyd mae "Maen Beuno" sydd yn ôl yr hanes yn dwyn olion bysedd Beuno ei hun. Tu allan yn y fynwent mae deial haul sy'n cael ei ddyddio rywbryd rhwng diwedd y ddegfed ganrif a dechrau'r ddeuddegfed ganrif.

Enwogion golygu

Ymhlith enwogion o Glynnog mae dau a fu'n Gatholigion blaenllaw yn yr 16g, sef:

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Clynnog Fawr (pob oed) (997)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Clynnog Fawr) (698)
  
73.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Clynnog Fawr) (689)
  
69.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Clynnog Fawr) (149)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu