Pen-y-groes

pentref mawr yng Ngwynedd

Pentref mawr yng nghymuned Llanllyfni, Gwynedd, Cymru, yw Pen-y-groes[1] neu Penygroes[2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle, ger pentrefi Llanllyfni, Carmel a Groeslon.

Pen-y-groes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.053°N 4.283°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH470531 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref bychan o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin.

Lleolir Ysgol Dyffryn Nantlle yn y pentref, ynghyd â ffatri papur toiled a chlwb peldroed enwog Nantlle Vale. Dyma ganolfan fasnachol ac economaidd y dyffryn, bellach wedi edwino rhyw gymaint ers agor ffordd osgoi heibio pentrefi'r cwm. Yno hefyd mae meddygfeydd, llyfrgell, canolfan dechnoleg, canolfan hamdden Plas Silyn, fferyllydd a stad ddiwydiannol. Cydnabyddir fel un o'r cymunedau Cymreiciaf yn y byd, gyda mwy na 90% yn gallu'r Gymraeg yno.

Mae bysiau sy'n rhedeg i Gaernarfon yn gwasanaethu'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU