Matteo Maria Boiardo
Bardd Eidalaidd yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Matteo Maria Boiardo (Mai neu Fehefin 1441 – 19 Rhagfyr 1494) sydd yn nodedig am ei arwrgerdd Orlando innamorato, y gerdd gyntaf i gyfuno elfennau Cylch Arthur â'r rhamant Garolingaidd.
Matteo Maria Boiardo | |
---|---|
Ganwyd | 1441 Scandiano |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1494, 28 Rhagfyr 1494, 1494 Reggio Emilia |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | Orlando Innamorato |
Arddull | soned, canzone |
Priod | Taddea Gonzaga |
Plant | Camillo Boiardo |
Llinach | Q16533078 |
Bywgraffiad
golyguGaned yn Scandiano, ger dinas Reggio nell'Emilia, yn Nhaleithiau'r Babaeth, a chafodd ei fagu yn Ferrara. Aelod o deulu cefnog ydoedd, a threuliodd ei oes yng ngwasanaeth Tŷ Este, a fu'n rheoli Dugiaeth Ferrara a Dugiaeth Modena a Reggio. Gwasanaethodd Boiardo yn gapten ar luoedd y Dug Ercole I d'Este ym Modena o 1480 i 1482 ac yn Reggio o 1487 hyd at ei farwolaeth.[1] Bu farw yn Reggio nell'Emilia yn 53 oed.
Barddoniaeth
golyguCyfansoddai Boiardo ei farddoniaeth gynnar yn Lladin, ac ysgrifennodd hefyd yn Eidaleg eclogau a chyfrol o delynegion serch ar batrwm Francesco Petrarca yn dwyn y teitl Amorum libri tres (1499).
Cychwynnodd ar ei gampwaith, Orlando innamorato, tua 1476, gyda'r nod o ysgrifennu tair rhan. Cyhoeddwyd y ddwy ran gyntaf ym 1483, ond bu'r gwaith yn anorffenedig ganddo a dim ond ychydig o'r drydedd ran a gyflawnwyd cyn ei farwolaeth. Tynnai'r gwaith ar ddeunydd o lenyddiaeth Roeg, Lladin, Ffrangeg, ac Eidaleg, ac o sawl genre, a'i brif themâu ydy sifalri, dewrder milwrol, gwladgarwch, a chrefydd. Nodweddir y gerdd gan ieithwedd ddysgedig, ac yn ôl nifer o feirniaid metha cymeriadaeth y bardd a'i ymdrechion i lunio hynt y stori. Er nad oedd Orlando innamorato yn boblogaidd, cafodd ddylanwad pwysig ar ffurf yr arwrgerdd. Codai pen llinyn y stori gan Ludovico Ariosto yn ei gerdd ffantasi epig Orlando furioso (1516), un o fydryddweithiau gwychaf y Dadeni.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Matteo Maria Boiardo, count di Scandiano. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Awst 2020.