Bardd a dramodydd Eidalaidd yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin oedd Ludovico Ariosto (8 Medi 14746 Gorffennaf 1533) sydd yn nodedig am ei arwrgerdd Orlando furioso (1516), a ystyrir yn un o'r mydryddweithiau gwychaf yn holl lenyddiaeth y Dadeni.

Ludovico Ariosto
Portread modern o Ludovico Ariosto, â'r goron lawryf am ei ben.
Ganwyd8 Medi 1474 Edit this on Wikidata
Reggio Emilia Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1533 Edit this on Wikidata
Ferrara Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOrlando Furioso Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMatteo Maria Boiardo, Fyrsil Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
PlantVirginio Ariosto Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganed Ludovico Ariosto ar 8 Medi 1474 yn Reggio nell'Emilia, Dugiaeth Modena, yng ngogledd yr Eidal, yn fab hynaf i'r Cownt Niccolò Ariosto, cadlywydd Caer Reggio. Pan oedd Ludovico yn 10 oed, symudodd y teulu i Ferrara, dinas enedigol Niccolò, a chafodd ei fagu yn llys y teulu Este, Dugiaid Ferrara. Byddai'r bardd yn ystyried ei hunan yn ferrarese trwy gydol ei oes. Bu'n ymddiddori mewn barddoniaeth ers ei fachgendod, ond gorfodwyd iddo astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Ferrara, ar orchymyn ei dad, o 1489 i 1494. Wedi iddo ymgymhwyso ar gyfer gyrfa yn y gyfraith, caniatawyd iddo dreulio'r cyfnod hyd at 1499 yn canlyn ei astudiaethau llenyddol.[1]

Yn sgil marwolaeth y Cownt Niccolò ym 1500, etifeddodd Ludovico gyfrifoldebau ei dad a bu'n rhaid iddo ddarparu ar gyfer ei frodyr a'i chwiorydd. Penodwyd yn gadlywydd Caer Canossa ym 1502, ac y flwyddyn nesaf cafodd ei dderbyn i wasanaeth y Cardinal Ippolito d'Este, mab Ercole I, Dug Ferrara. Fel llyswr a milwr, roedd disgwyl i Ariosto fod yng ngwasanaeth ei arglwydd, y Cardinal Ippolito, yn ddi-baid, ac i gyd-deithio ar ymgyrchoedd rhyfel yn ogystal â chenadaethau diplomyddol. Yn ystod Rhyfel Cynghrair Cambrai, aeth Ariosto gyda gosgordd y Cardinal ar ymgyrch filwrol Ferrara yn erbyn Gweriniaeth Fenis; byddai'r bardd yn cynnwys disgrifiad o fuddugoliaeth Ferrara ym Mrwydr Polesella (1509), ar Afon Po, yn ei gampwaith Orlando furioso. Ym 1512 aeth i Rufain yng nghwmni Alfonso I, Dug Ferrara, brawd hŷn y Cardinal, i geisio cymodi'r Pab Iŵl II yn sgil penderfyniad Ferrara i ymgynghreirio â Ffrainc yn Rhyfel y Gynghrair Sanctaidd. Methiant a fu'r perwyl hwnnw, a bu'n rhaid iddynt ffoi ar draws yr Apenninau i ddianc rhag dicter y Pab. Dychwelodd Ariosto i Rufain ym 1513 i erfyn ar y pab newydd, Leo X, am ryw swydd yn Llys y Pab a oedd yn fwy addas i'w weithgareddau llenyddol, ond ofer oedd ei daith, a dychwelodd i Ferrara.[1]

Gwrthododd Ariosto fynd i Hwngari â'r Cardinal Ippolito pan gafodd yr hwnnw ei benodi'n Esgob Buda ym 1517. Yn hytrach, arhosai yn Ferrara ac aeth i wasanaeth personol y Dug Alfonso ym 1518. Wynebai diffygion ariannol, ac o'r herwydd bu'n rhaid iddo dderbyn holl orchmynion ei arglwydd er mwyn ennill digon o arian i gynnal ei deulu a'i gariad, Alessandra Benucci. Ym 1522 penodwyd Ariosto yn Llywodraethwr y Garfagnana, yng ngogledd yr Apenninau, gan y Dug Alfonso, ac yn y swydd honno bu'n rhaid iddo orfodi'r gyfraith yn erbyn banditiaid ac ymgecru gwleidyddol.[1]

Erbyn 1525, enillasai ddigon o arian i ddychwelyd i Ferrara, ac yno prynodd dŷ bach a gardd. Rhywbryd rhwng 1528 a 1530, priododd Ludovico Ariosto ag Alessandra Benucci mewn seremoni breifat. Cadwodd ei briodas yn gyfrinach er mwyn peidio â hepgor rhai buddion eglwysig yr oedd ganddo hawl iddynt. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn byw gyda'i wraig, yn gofalu am ei ardd, ac yn dal at ei adolygiadau i Orlando furioso. Bu farw Ludovico Ariosto yn Ferrara ar 6 Gorffennaf 1533, yn 58 oed.[1]

Barddoniaeth golygu

Campwaith Ludovico Ariosto yw Orlando furioso, arwrgerdd Eidaleg yn genre'r rhamant sifalraidd sydd yn tynnu ar draddodiadau llenyddol Mater Ffrainc a Mater Prydain. Mae'r gerdd hon yn codi pen llinyn stori Orlando innamorato, arwrgerdd anorffenedig gan Matteo Maria Boiardo, a fu farw ym 1494. Honno oedd y gerdd gyntaf i gyfuno elfennau Cylch Arthur â'r rhamant Garolingaidd, a thynnir Ariosto ar yr un themâu a ffynonellau yn ei ddilyniant. Mae Orlando yn cyfateb i Rolant yn chwedloniaeth Ffrainc, a chylchoedd myth a llên Ffrainc ac Ynys Brydain oedd yr ysbrydoliaeth am Orlando'r Eidalwyr. Traddodai anturiaethau'r marchog Orlando wrth iddo geisio ennill cariad Angelica ac yn mynd yn wallgof ar yr un pryd. Mae Angelica mewn cariad â'r milwr o Fwslim Medoro, ac yng nghynddaredd ei genfigen mae Orlando'n difetha popeth yn ei ffordd. Mae ei gyfaill Astolfo yn teithio i'r lleuad ar gefn marchriffwn i ganfod elicsir callineb. Trwy gydol yr adroddiant, a chanddo iaith flodeuog a ffansïol, câi'r gerdd ei britho â straeon byrion. Cychwynnodd Ariosto ar y gerdd tua 1505, a chyhoeddodd yr argraffiad cyntaf yn Fenis ym 1516, a chanddo 40 o ganiadau ar ffurf fydryddol yr ottava rima, y mesur poblogaidd mewn barddoniaeth Eidaleg ers Giovanni Boccaccio yn y 14g. Yn Ferrara ym 1521 cyhoeddwyd yr ail argraffiad, eto'n cynnwys 40 o ganiadau, ac yn yr hwnnw gwelir dylanwad Pietro Bembo, y beirniad a bardd o fri, ar arddull ac ieithwedd Ariosto. Cyhoeddwyd y trydydd argraffiad yn Ferrara ym 1532, ar ffurf 46 o ganiadau. Ym 1545, deuddeng mlynedd wedi marwolaeth y bardd, cyhoeddwyd giunta (atodiad) gyda phum caniad ychwanegol. Cafodd Orlando furioso mwy o ddylanwad na cherdd Boiardo, a bu'n wrthrych sawl cyfieithiad, dilyniant, efelychiad, ac ailwampiad gan lenorion ar draws Ewrop.

Ymhlith gweithiau cynnar Ariosto mae nifer o benillion Lladin a ysbrydolwyd gan y beirdd Rhufeinig Tibullus a Horas. Ysgrifennodd hefyd bum comedi yn yr iaith Eidaleg: Cassaria (1508), I suppositi (1509), Il negromante (1520), La lena (1529), ac I studenti (a gyflawnwyd gan ei frawd Gabriele a chyhoeddwyd wedi ei farwolaeth dan y teitl La scolastica). Ystyrir y rhain yn fân weithiau, ond maent yn nodedig fel esiamplau cynnar o gomedi Ewropeaidd, yn iaith y werin, ar batrwm y clasuron Lladin.

Yn y cyfnod o 1517 i 1525, cyfansoddai Ariosto saith dychangerdd, dan y teitl Satire, ar batrwm y Seremones gan Horas. Mae'r cyntaf o'r rhain yn fynegiant o urddas ac annibyniaeth y bardd, sydd yn adlewyrchu ei benderfyniad ym 1517 i beidio â dilyn y Cardinal Ippolito i Buda. Mae'r ail ddychangerdd yn ymosod ar lygredigaeth yn yr Eglwys Gatholig, a'r drydedd yn trafod yr angen moesol i beidio ag anelu'n rhy uchel. Mae'r bedwaredd ddychangerdd yn ymwneud â phriodas, y bumed a'r chweched yn disgrifio teimladau'r bardd o gael ei gadw draw oddi wrth ei deulu ar orchmynion ei arglwyddi, a'r seithfed yn annerch Pietro Bembo ar bwnc dyneiddiaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Ludovico Ariosto. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Medi 2021.

Darllen pellach golygu

  • Albert Russell Ascoli, Ariosto's Bitter Harmony: Crisis and Evasion in the Italian Renaissance (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 1987).
  • Robert Griffin, Ludovico Ariosto (Efrog Newydd: Twayne, 1974).
  • Julia M. Kisacky, Magic in Boiardo and Ariosto (Efrog Newydd: Peter Lang, 2000).
  • Peter V. Marinelli, Ariosto and Boiardo: The Origins of Orlando furioso (Columbia, Missouri: University of Missouri Press, 1987).