Maurice Wilks
Peiriannydd a dyfeisydd o Ynys Môn oedd Maurice Fernand Cary Wilks (19 Awst 1904 – 8 Medi 1963). Yn ei flynyddoedd diwethaf, roedd yn Gadeirydd Cwmni Rover. Ef oedd prif ddyfeisydd y cerbyd a ddaeth yn ddiweddarach i gael ei adnabod fel y Land Rover.
Maurice Wilks | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1904 Ynys Hayling |
Bu farw | 8 Medi 1963 Niwbwrch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, entrepreneur, dylunydd ceir |
Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Malvern cyn iddo cyn iddo weithio rhwng 1922 a 1926 i Gwmni Ceir Hillman yn Coventry.[1].[1][2] Trodd at gwmni General Motors yn Unol Daleithiau America yn 1926 ond wedi dwy flynedd dychwelodd i Loegr ac at gwmni Hillman.[3]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datblygodd peiriannau twrbein nwy awyrenau, ond oherwydd trafferthion pasiwyd y prosiect i Rolls-Royce yn 1943.[1] Ond ar ôl y Rhyfel ailafaelodd Wilks yn y peiriannau twrbein. Arweiniodd y gwaith hwn at y car cyntaf i gael ei yrru gan beiriant twrbein nwy yn 1949.[4]
Adref ar ei fferm yn Niwbwrch, gyda'i frawd Spencer (a oedd hefyd yn gweithio i Rover) bu'r ddau'n gweithio gyda Willys Jeep, pan ddaeth y syniad o'i addasu ar gyfer amaethyddiaeth. Penderfynnodd y ddau yn y fan a'r lle i'w alw'n 'Land Rover'.[4] Erbyn haf 1947 roedd prototeip y Land Rover yn barod, wedi'i sefydlu ar echel Jeep ac wedi ei greu ar ei fferm yn Niwbwrch. Yn Hydref 1947, rhoddodd Cwmni Rover sêl eu bendith ar y gwaith o gynhyrchu 50 model i'w treialu.[4] Yn 1948, yn Sioe Gerbydau Amsterdam, lansiwyd y cerbyd yn ffurfiol.[4]
Marw
golyguBu Wilks farw ar ei fferm ger Niwbwrch ar yr 8fed o Fedi 1963.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Wilks, Maurice Cary Fernand". Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 17 Gortffennaf 2011. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Graces Guide to British Industrial History. Profile of Spencer Wilks
- ↑ "Obituary: Mr. Maurice Wilks". The Times. 10 September 1963. t. 12.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Nick Georgano, Nick Baldwin, Anders Clausager, Jonathan Wood. Nick Georgano (gol.). Britain's Motor Industry: The First Hundred Years. ISBN 0-85429-923-8.CS1 maint: multiple names: authors list (link)