Brand, gwneuthurwr ceir a math o gerbyd yw Land Rover sy'n arbenigo mewn cerbydau gyriant pedair olwyn. Perchennog Land Rover yw Jaguar Land Rover, a pherchennog y gwneuthurwr ceir Prydeinig hwnnw, ers 2008, yw Tata Motors o India.[1] Ystyrir y 'Land Rover' gan Brydeinwyr fel eicon Prydeinig, a rhoddwyd Gwarant Brenhinol i'r cwmni gan Siôr VI yn 1951.[2][3]

Land Rover
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1978
PencadlysCoventry
Rhiant-gwmni
Ford

Bu 100% o'r cwmni Jaguar Land Rover ym meddiant Tata Motors ers 2008, pan brynnwyd ef gan Ford.[4] Yn 2014 gwerthodd Tata 462,678 o gerbydau: 381,108 Land Rover a 81,570 o gerbydau Jaguar.[5]

Cwmni Rover oedd perchennog gwreiddiol Land Rover pan gynhyrchwyd y gyfres Land Rover yn 1948. Cafwyd gwahanol fathau o'r cerbyd gyriant pedair olwyn, gan gynnwys y canlynol: Defender, Discovery, Freelander, Range Rover, Range Rover Sport a'r Range Rover Evoque. Cynhyrchir y cerbydau hyn yn Halewood a Solihull gyda'r gwaith ymchwil yn cael ei wneud yn Gaydon a Whitley. Yn 2009 gwerthwyd 194,000 o gerbydau.[6]

Ym Medi 2013, cyhoeddwyd cynlluniau i agor canolfan ymchwil gwerth £100 miliwn ym Mhrifysgol Warwick, Coventry i gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gerbydau. Y nod oedd cyflogi mil o academyddion a pheiriannwyr i gynllunio ceir gyda'r dechnoleg ddiweddaraf.[7]

Modelau golygu

Rhai o'r prif fodelau
 
Cyfres 1; top caled; lansiwyd 1948
Cyfres 1; top caled; lansiwyd 1948 
 
Range Rover Classic; cynhyrchwyd 1970 - 1996
Range Rover Classic; cynhyrchwyd 1970 - 1996 
 
Land Rover Defender; 1983–2016
Land Rover Defender; 1983–2016 
 
SUV; 1970 - presennol ; Range Rover (L405)
SUV; 1970 - presennol ; Range Rover (L405) 

Hanes golygu

Cynlluniwyd y Land Rover gwreiddiol yn 1947 gan Maurice Wilks, prif gynllunydd y Rover Company gyda'i frawd Spencer, Prif Weithredwr Rover, ar ei fferm yn Niwbwrch, Ynys Môn.[8] Credir i'r Jeep Americanaidd ddylanwadu ar y cynllun.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Joint Venture, Subsidiary and Associate Companies: Jaguar Land Rover". Tata Motors. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 14 Chwefror 2012.
  2. "Queen's Birthday Party Speech by H.E. Vicki Treadell". Gov.uk. 5 Hydref 2016.
  3. "STAR ROLE FOR JAGUAR LAND ROVER AT THE CORONATION FESTIVAL, CELEBRATING THE 60TH ANNIVERSARY OF THE CORONATION OF HM THE QUEEN". Jaguarlandrover.com. 5 Hydref 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-28. Cyrchwyd 2016-12-28.
  4. Mike Rutherford (29 Mawrth 2008). "Mike Rutherford ponders Tata's takeover of Land Rover and Jaguar". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-08. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2008.
  5. "JAGUAR LAND ROVER REPORTS STRONG FULL YEAR SALES FOR 2014". Jaguar Land Rover. 12 Ionawr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  6. Arnott, Sarah (11 Awst 2010). "Booming sales at Jaguar Land Rover boost Tata Motors profits". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd 2 Hydref 2010.
  7. Rueters (24 Medi 2013). "Jaguar Land Rover to open new £100 million R&D centre in UK in 2016". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Cyrchwyd 2016-12-28.
  8. Hackett, Kevin (28 Mawrth 2008). "Land Rover: The sands of time". The Telegraph. Cyrchwyd 30 Mehefin 2011.