Maurizio Pollini
Pianydd ac arweinydd o'r Eidal oedd Maurizio Pollini (5 Ionawr 1942 - 23 Mawrth 2024). Roedd e'n adnabyddus am ei berfformiadau o weithiau Beethoven, Chopin a Debussy, a gweithiau gan gyfansoddwyr cyfoes, gan gynnwys Pierre Boulez, Karlheinz Stockhausen, a Bruno Maderna. Mae Luigi Nono, Giacomo Manzoni a Salvatore Sciarrino ymhlith y cyfansoddwyr a ysgrifennodd weithiau yn arbennig i Pollini.
Maurizio Pollini | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1942 Milan |
Bu farw | 23 Mawrth 2024 Milan |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, arweinydd, cyfansoddwr, cerddor, prif fiolinydd |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Tad | Gino Pollini |
Mam | Renata Melotti |
Gwobr/au | Member, Special Class of the Order of Honour, Praemium Imperiale, Cystadleuaeth Gerdd Ryngwladol Genefa, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Ernst von Siemens Music Prize, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, International Chopin Piano Competition, Echo Klassik Award - Instrumentalist of the Year, Echo Klassik Award - Instrumentalist of the Year, International Ettore Pozzoli Piano Competition |
Cafodd Pollini ei eni ym Milan i'r pensaer Gino Pollini a'i wraig Renata Melotti, chwaer i'r cerflunydd Eidalaidd Fausto Melotti.[1] Roedd ei athrawon piano yn cynnwys Carlo Lonati a Carlo Vidusso[2][3]. Hyfforddodd Vidusso Pollini yn llym yn Conservatoire Milan, gan ei baratoi ar gyfer cystadleuaeth.[4] Astudiodd Pollini gyfansoddi ac arwain hefyd.[5] Enillodd ei brif wobr gyntaf ym 1957.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Carrick, Phil. "Maurizio Pollini at 70: International Superstar of the Piano". Music Makers (yn Saesneg). ABC Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2015. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ Siek, Stephen (10 Tachwedd 2016). A Dictionary for the Modern Pianist (yn Saesneg). Rowman & Littlefield. t. 189. ISBN 978-0-8108-8880-7. Cyrchwyd 18 Awst 2019.
- ↑ Huang, Hao (1998). Music in the 20th century, Volume 2. Armonk NY: M E Sharpe Reference. tt. 472. ISBN 978-0-7656-8012-9.
- ↑ Siek 2017.
- ↑ Davud Allen. "Maurizio Pollini, Celebrated Pianist Who Defined Modernism, Dies at 82". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2024.