Mausoleum Halicarnassus

Cofadail mawreddog yw'r Mausoleum (Groeg Μαυσολειον) a godwyd yn ninas Halicarnassos yn nhalaith Caria yn Asia Leiaf er anrhydedd y brenin Mausolus yn 352 CC gan ei wraig Artemisia. Mae'n un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.

Mausoleum Halicarnassus
MathRhyfeddod yr Henfyd, mawsolëwm, safle archaeolegol Groeg yr Henfyd, adfeilion, amgueddfa, cyn-adeilad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMausolus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSaith Rhyfeddod yr Henfyd Edit this on Wikidata
SirBodrum, Talaith Muğla Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.03794°N 27.4241°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth glasurol Edit this on Wikidata
PerchnogaethArtaxerxes III, brenin Persia Edit this on Wikidata

O ran ei adeiladwaith roedd iddo is-strwythr hirsgwar mawr, 440 troedfedd o gwmpas, wedi ei amgylchynu gan 36 colofn, ac wedi ei goroni gan byramid 24 gradd gyda quadriga (cerbyd pedwar march) ar ei gopa, yn ôl Pliny'r Hynaf (Naturalis Historia xxxvi, 30-31). Uchder y cofadail oedd 140 troedfedd ac roedd wedi'i baentio â phob lliw dan haul. Satyrus a Pythius oedd y penseiri a gwaith y cerflunwyr enwog Scopas, Bryaxis, Timotheus a Leochares oedd y cerfluniau ar hyd ei ochrau.

Roedd y Mausoleum mewn cyflwr da hyd at y 12g OC ond dirywio fu ei hanes ar ôl hynny. Daeth Marchogion St John i'r ardal ar ddiwedd y 14g a dechrau ei ddefnyddio fel chwarel. Yn goron ar y fandaliaeth hon, toddwyd y cerfluniau marmor i wneud gwyngalch ar gyfer eu caer yn 1522. Darganfuwyd olion yr adeilad o'r newydd yn 1857 a symudwyd drylliau o'r cerfluniau i'r Amgueddfa Brydeinig. Mae gwaith archaeolegol diweddar wedi datguddio safle'r Mausoleum ond ychydig sy'n aros ohono.

Rhoddwyd yr enw mausoleum gan y Rhufeiniaid ar eu cofadeilion hwythau, gan gynnwys Beddrod Hadrian yn Rhufain (Castell Sant Angelo heddiw).

Y Mausoleum yn Halicarnassus (engrafiad lliwiedig gan Martin Heemskerck, 16g)

Llyfryddiaeth

golygu