Asia Leiaf yw'r enw Clasurol am y rhan o orllewin Asia a elwir hefyd yn Anatolia ac sy'n gyfateb yn fras i diriogaeth Twrci heddiw. Mae'n gorwedd rhwng y Môr Du yn y gogledd, y Môr Canoldir yn y de, Môr Marmara a Môr Egeaidd yn y gorllewin a mynyddoedd Cwrdistan, Armenia a'r Cawcasws yn y dwyrain. Mae'r Hellespont yn gorwedd rhyngddi ac Ewrop.

Asia Leiaf
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Arwynebedd756,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir, Môr Marmara, Y Môr Du, Môr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39°N 35°E Edit this on Wikidata
Map
"Simnëion y Tylwyth Teg" yn Cappadocia, Twrci.

Hanes golygu

Am gyfran helaeth o'r ail fileniwm Cyn Crist roedd y rhan fwyaf o Asia Leiaf yn rhan o ymerodraeth yr Hitiaid. Yn sgîl dymchwel yr ymerodraeth honno tua'r flwyddyn 1200 CC, aeth canolbarth a gorllewin y rhanbarth dan ddominyddiaeth Phrygia, a gyrhaeddodd ei huchafbwynt yn yr 8fed ganrif CC. Cwncweriwyd de-ddwyrain Asia Leiaf gan yr ymerodraeth Asyriaidd tua'r un cyfnod. Syrthiodd Phrygia i Lydia yn y 6ed ganrif CC, ac yna yn 546 CC sefydlodd yr ymerodr Persiaidd Cyrus Fawr ei afael ar Asia Leiaf.

Yn 333 CC fe'i goresgynnwyd gan Alecsander Fawr o Facedon. Wedi i Alecsander farw rhannwyd y rhanbarth yn gyfres o fân frehiniaethau fel Pergamum, Cappadocia, Bithynia a Pontus yn y gogledd a'r gorllewin tra fu'r de yn faes ymrafael rhwng y Seleuciaid a'r Ptolemiaid, olynwyr Alecsander.

Rhwng 200 CC a diwedd y ganrif gyntaf CC ymestynnai'r Rhufeiniaid eu gafael ar Asia Leiaf ac aeth yr hen deyrnasoedd yn daleithiau Rhufeinig. Yn ddiweddarach roeddynt yn rhan o'r ymerodraeth ddwyreiniol ac yna Bysantiwm.

Ar ôl cael ei goresgyn gan y Tyrciaid Seljukaidd yn yr 11g a syrthio'n ysglyfaeth i'r Mongoliaid yn y 13g, cafodd Asia Leiaf ei hymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y 14eg a'r 15g.

Cyfeiriadau golygu