Max Frisch
Dramodydd a nofelydd Swisaidd oedd Max Rudolf Frisch (15 Mai 1911 – 4 Ebrill 1991) sydd yn nodedig am ei bortreadau o gyfyng-gynghorau moesol ym mywyd yr 20g. Dylanwadwyd arno yn gryf gan Bertolt Brecht a Thornton Wilder, ac mae nifer o'i ddramâu—yn eu plith Andorra (1961)—yn ymwneud â ffawd dyn a'r trafferthion o'i sylweddoli yn y gymdeithas gyfoes.
Max Frisch | |
---|---|
Max Frisch, tua 1974. | |
Ganwyd | Max Rudolf Frisch 15 Mai 1911 Zürich |
Bu farw | 4 Ebrill 1991 o canser colorectaidd Zürich |
Man preswyl | Zürich, Rhufain, Valle Onsernone |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, pensaer, dramodydd, nofelydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, athronydd, newyddiadurwr, cofiannydd, bardd |
Arddull | drama, rhyddiaith |
Priod | Gertrud Frisch-von Meyenburg, Marianne Frisch |
Partner | Ingeborg Bachmann, Käte Schnyder-Rubensohn |
Plant | Ursula Priess |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Georg Büchner, Gwobr Conrad Ferdinand Meyer, Gwobr Wilhelm Raabe, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Schiller, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Heinrich Heine Prize, Charles Veillon prize in the German language, Gwobr Jeriwsalem, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, honorary doctor of the University of Birmingham, Honorary doctor of the Technical University of Berlin |
Ganed ef yn Zürich, y Swistir. Astudiodd lenyddiaeth Almaeneg ym Mhrifysgol Zürich, ond ym 1933 gadawodd y brifysgol heb ennill ei radd er mwyn cychwyn ar yrfa fel newyddiadurwr. Teithiodd ar draws de a dwyrain Ewrop o 1934 i 1936, cyn ddychwelyd i Zürich i astudio pensaernïaeth. Gwasanaethodd ym myddin y Swistir yn yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn bensaer tra'n ysgrifennu yn ei amser rhydd.[1]
Drama foes yw ei waith cyntaf a berfformiwyd ar y llwyfan, Nun singen sie wieder (1945), sydd yn defnyddio tablos swrealaidd i ddadlennu safbwyntiau rhyfelwyr a dioddefwyr yn ystod y rhyfel. Mae ei ddramâu eraill yn cyfnod cychwynnol ei yrfa yn cynnwys y ddwy felodrama hanesyddol Die chinesische Mauer (1947) ac Als der Krieg zu Ende war (1949), yr esiampl dreisgar o feirniadaeth gymdeithasol Graf Öderland (1951), a'r addasiad o chwedl Don Juan, Don Juan oder die Liebe zur Geometrie (1953). Rhodd Frisch y gorau i bensaernïaeth ym 1955 i lenora llawn-amser.[1]
Mae dramâu eraill Frisch yn cynnwys y ddrama ddamhegol Biedermann und die Brandstifter (1958), Andorra (1961), a Biografie (1967). Mae ei nofelau cynnar yn cynnwys Stiller (1954), Homo Faber (1957), a Mein Name sei Gantenbein (1964), sydd yn portreadu agweddau ar fywyd deallusol modern ac yn archwilio thema hunaniaeth. Mae ei nofelau diweddar yn cynnwys Montauk: Eine Erzählung (1975), Der Mensch erscheint im Holozän (1979), a Blaubart (1982). Cyhoeddodd hefyd sawl gwaith hunangofiannol, gan gynnwys day ddyddiadur, Tagebuch 1946–1949 (1950) a Tagebuch 1966–1971 (1972).
Bu farw Max Frisch yn Zürich o ganser yn 79 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Max Frisch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2022.
- ↑ (Saesneg) "Noted Swiss Author Max Frisch Dead at 79", Associated Press (4 Ebrill 1991). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Hydref 2022.