Ingeborg Bachmann
Awdures Awstriaidd oedd Ingeborg Bachmann (25 Mehefin 1926 - 17 Hydref 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, newyddiadurwr, sgriptiwr ac athronydd.
Ingeborg Bachmann | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
25 Mehefin 1926 ![]() Klagenfurt ![]() |
Bu farw |
17 Hydref 1973 ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl |
Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, athronydd, awdur ysgrifau, dramodydd, libretydd, cyfieithydd ![]() |
Adnabyddus am |
Das dreißigste Jahr, Malina, Die Karawane und die Auferstehung, Der gute Gott von Manhattan, Q2288570 ![]() |
Prif ddylanwad |
Ilse Aichinger ![]() |
Partner |
Max Frisch, Paul Celan ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Anton Wildgans, Gwobr Fawr Gwladwriaeth Awstria am Lenyddiaeth, Gwobr Georg Büchner, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Magwraeth ac addysgGolygu
Fe'i ganed yn Klagenfurt, Carinthia ar 25 Mehefin 1926 a bu farw yn Rhufain, yn ferch i brifathro. Astudiodd athroniaeth, seicoleg, ieitheg yr Almaen, a'r gyfraith ym mhrifysgolion Innsbruck, Graz, a Vienna. Yn 1949, derbyniodd ei Doethur mewn Athroniaeth o Brifysgol Fienna o'r enw "Derbyniad Beirniadol Athroniaeth Ddigwyddiadol Martin Heidegger"; ei hymgyghorydd traethawd ymchwil oedd Victor Kraft. [1][2][3][4][5]
Ar ôl graddio, gweithiodd Bachmann fel sgriptiwr a golygydd yng ngorsaf radio Rot-Weiss-Rot,swydd a roddodd drosolwg cyffredinol iddi o lenyddiaeth, ac a roddodd incwm iddi ac a wnaeth iddi barhau gyda'i gwaith llenyddol. Daeth i gysylltiad gyda Hans Weigel, Ilse Aichinger, Paul Celan, Heinrich Böll, Marcel Reich-Ranicki a Günter Grass pan ymunodd a'r Gruppe 47.
Roedd traethawd doethuriaeth Bachmann yn mynegi ei dadrithiad cynyddol gyda dirfodaeth (existentialism) Heideggeria, a liniarwyd ychydig oherwydd ei diddordeb yn Ludwig Wittgenstein. Dylanwadwyd ar ei hagwedd at iaith gan syniadau Wittgenstein,
Y llenorGolygu
Yn ystod ei hoes, adnabyddwyd Bachmann yn bennaf oherwydd dau gasgliad o farddoniaeth a ysgrifennodd: Das dreißigste Jahr, Malina, Die Karawane und die Auferstehung a Der gute Gott von Manhattan.
Roedd Bachmann ar flaen y gad o ran syniadaeth blaenllaw hawliau menywod, yn enwedig yn Awstria. Canfu, yn ei bywyd personol, y stad o fod yn rhydd oddi wrth realaeth gwleidyddol yr oes. Cafodd gweithiau Bachmann a rhai Barbara Frischmuth, Brigitte Schwaiger ac Anna Mitgutsch eu cyhoeddi'n eang yn yr Almaen. Cyhoeddodd awduron gwrywaidd o Awstria fel Franz Innerhofer, Josef Winkler a Peter Turrini weithiau ar brofiadau trawmatig o gymdeithasoli. Yn aml, cynhyrchodd yr awduron hyn eu gwaith ar gyfer prif gyhoeddwyr gweithiau Almaeneg. Ar ôl marwolaeth Bachmann ym 1973 parhaodd awduron Awstria fel Thomas Bernhard, Peter Handke ac Elfriede Jelinek â thraddodiad llenyddiaeth Awstria yn yr Almaen.
AelodaethGolygu
Bu'n aelod o Grwp 47, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd. [6]
AnrhydeddauGolygu
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Anton Wildgans (1971), Gwobr Fawr Gwladwriaeth Awstria am Lenyddiaeth (1968), Gwobr Georg Büchner (1964), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (1957) .
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11889805f; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11889805f; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11889805f; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ingeborg Bachmann; dynodwr Discogs (artist): 578771. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/bachmann-ingeborg; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ingeborg Bachmann.
- ↑ Dyddiad marw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11889805f; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ingeborg Bachmann; dynodwr Discogs (artist): 578771. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/bachmann-ingeborg; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ingeborg Bachmann.
- ↑ Man geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
- ↑ Man gwaith: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).