Mechell (sant)

sant o Ynys Môn

Sant a gysylltir ag Ynys Môn oedd Mechell neu Mechyll (fl. 5g neu 6g). Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Echwydd ap Gwyn Gohoyw.[1] Dethlir ei wylmabsant ar 15 Tachwedd.

Mechell
Tŵr Eglwys Mechell Sant.
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Man preswylYnys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Bywgraffiad

golygu

Ychydig iawn a wyddys amdano. Dywedir iddo sefydlu eglwys Llanfechell yn y 5g ar safle Eglwys Mechell Sant heddiw. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref hwnnw.

Ceir carreg Gristnogol gynnar ym mynwent eglwys Penrhos Lligwy sy'n dwyn yr arysgrif ganlynol:

HIC IACIT MACCVQ ECCETI (Yma y gorwedd ?Mechell [fab] ?Echwydd)[2]

Ymddengys i Fechell gael ei gladdu yn y llan honno.

Cyfeiriadau

golygu
  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)