Penrhoslligwy
Plwyf eglwysig ac ardal ym Môn yw Penrhoslligwy ( ynganiad ) (hefyd Penrhos Lligwy).
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Moelfre |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3483°N 4.28406°W |
Gwleidyddiaeth | |
Hanes
golyguPenrhoslligwy oedd maerdref Cwmwd Twrcelyn, un o chwech cwmwd ar Ynys Môn. Nid oes olion o'r faerdref yn bodoli erbyn heddiw. Fel gweddill yr ynys, y prif alwedigaeth oedd gweithio'r tir, rhandiroedd yn cael eu rhannu rhwng y taeogion gan y Tywysog neu ei swyddogion. Roedd yn rhaid i’r tenantiaid ddarparu bwyd, tanwydd, rhai nwyddau domestig, llafur a rhent i'r llys. Buasai y Tywysog yn gadael ei brif lys yn Aberffraw i dreulio'i amser yn ei faesdrefi teirgwaith y flwyddyn.[1]
Ceir eglwys y plwyf ym Mhenrhoslligwy, sef Eglwys Sant Mihangel.
Natur
golyguLleolir Mynydd Bodafon yn rhannol ym mhlwyf Mhenroslligwy.
Dynodwyd rhan fawr o dir Penrhoslligwy yn ardal gadwraeth - gweler Penrhoslligwy (SoDdGA).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A.D. Carr, Medieval Anglesey. Anglesey Antiquarian Society, Llangefni, 1982.