MediaWici:Uploadtext/testun
Gwybodaeth uwchlwytho ffeiliau i Wicipedia |
Ar gyfer uwchlwytho delweddi a ffeiliau i'r Wicipedia Cymraeg mae'r dudalen hon. Ymwelwch â'r dudalen hon i ofyn cwestiynau ynglŷn â delweddi a chyfryngau, neu yma os nad oes cyfrif Wicipedia gennych ond am uwchlwytho beth bynnag. I greu erthygl newydd, ymwelwch â'r Dewin Erthygl. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r lle cywir i ofyn cwestiynau neu roi cynnig ar olygu. Os ydych yn uwchlwytho ffeiliau i'r parth cyhoeddus, neu gyda Thrwydded Dogfennaeth Rydd y GNU (GNU Free Documentation License) neu drwydded Creative Commons, nid allwch ddad-droi'r drwydded honno yn ôl. Os ydych am gael cymorth wrth uwchlwytho ffeiliau, mae canllawiau ar gael yma. A ydych yn uwchlwytho delwedd neu ffeil rydd? Mae modd defnyddio eitemau a gânt eu huwchlwytho i'r Comin ar Wicipedia a phrosiectau Wicifryngau eraill, sy'n helpu creu ystorfa o ddelweddi ac amlgyfryngau rhydd. |
1. Nodwch o le ddaw'r ffeil |
Darllenwch gynnwys y ddolen berthnasol yma.
Cliciwch i ddangos
|
2. Cwblhewch y paramedrau yn y blwch "Crynodeb:" (ar ôl yr hafalnodau ("=")) |
Wedi ichi ddarllen y ddolen berthnasol uchod, llenwch y paramedrau gyda'r wybodaeth dan sylw. Mae'r paramedrau yno yn barod ichi.
|
3. Dewiswch drwydded addas o'r gwymplen "Trwyddedu:". |
neu defnyddiwch dag hawlfraint yn "Crynodeb:". |
Sylwer! |
Mae'n rhaid ichi ddarparu'r wybodaeth (y disgrifiad, ffynhonnell, awdur, dyddiad, a'r caniatâd) a'r drwydded gywir o'r gwymplen "Trwyddedu:" isod (hynny yw, gyda'r tag cywir). Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn, dilëir y ffeil cyn gynted ag y bo modd a heb drafodaeth. Drwy uwchlwytho ffeil, rydych yn cytuno i gwrdd â'r amodau hyn ac yn tystio'ch bod yn deall yr hyn sydd ei hangen gwneud arnoch. Os oes angen cymorth arnoch, ymwelwch â Wikipedia:Media copyright questions neu ofyn yn Wicipedia:Y Ddesg Gymorth. |