Wicipedia:Hawlfraint

Colofn felen Diben Wicipedia yw creu cronfa o wybodaeth agored ar ffurf gwyddoniadur sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac yn rhydd o hawlfraint confensiynol. Rhoddir holl destun, lluniau, clipaiu sain a ffeiliau eraill sydd ar Wicipedia a'i chwaer brosiectau ar drwydded rhydd, agored CC BY-SA (ers Mehefin 2009 a GFDL cyn hynny. Hynny yw, fe gaiff pawb gopïo, newid, ailddosbarthu (a hyd yn oed werthu) cynnwys Wicipedia ar yr amod y bydd y fersiwn newydd yn rhoi'r un rhyddid i eraill ac yn cydnabod y ffynhonnell. Fe erys erthyglau Wicipedia gan hynny yn rhydd, yn rhad ac am ddim, am byth. Fe gaiff pawb eu defnyddio yn amodol ar ychydig o gyfyngiadau, a'r mwyafrif ohonynt yn bodoli er mwyn sicrhau'r rhyddid hwnnw.

I gyflawni'r amcanion uchod, trwyddedir y testunau yn Wicipedia i'r cyhoedd yn unol ag amodau'r Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License (CC by-SA 3.0) a'r hen drwydded GNU Free Documentation License (GFDL). Ceir testun llawn y trwyddedi hyn yma: Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License a Wikipedia:Text of the GNU Free Documentation License.

Testun y CC by-SA 3.0 a'r GFDL yw'r unig ddogfennau gyfreithiol rwymol; ein dehongliad ni o'r CC-by-SA 3.0 a'r GFDL a ganlyn: hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr a chyfranwyr.

Pwysig: Os byddwch am ddefnyddio cynnwys o Wicipedia, dylid darllen yr adran Hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr. Dylid wedyn ddarllen y Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License a'r GNU Free Documentation License.

Hawliau a rhwymedigaethau defnyddwyr

golygu

Os byddwch am ddefnyddio defnyddiau Wicipedia yn eich llyfrau, erthyglau, gwefannau neu gyhoeddiadau eraill, cewch wneud hynny, ond rhaid dilyn y canlynol:

  • rhaid trwyddedu'ch defnyddiau chithau dan yr un drwydded,
  • rhaid cydnabod pwy yw awdur yr erthygl (adran 4B), a
  • rhaid caniatáu gweld y copi tryloyw o'r deunydd (adran 4J). (Y copi tryloyw o erthygl Wicipedia yw ei destun Wici).

Os mai dim ond dyblygu'r erthygl o Wicipedia y byddwch chi, gallwch gyflawni'r ddau ymrwymiad olaf trwy roi dolen uniongyrchol amlwg yn ôl i'r erthygl Wicipedia a gedwir ar y wefan hon.

Os crëwch fersiwn ddeilliadol trwy newid neu ychwanegu cynnwys, rhaid cydnabod pwy yw'r awdur a chaniatáu gweld copi tryloyw o'r testun newydd.

Rhybudd enghreifftiol

golygu

Dyma rybudd enghreifftiol, sydd yn cydymffurfio â'r drwydded, ar gyfer erthygl sydd'n defnyddio'r erthygl Wicipedia Ffwng:

Trwyddedir yr erthygl hon yn unol ag amodau'r <a href="http://www.gnu.org/copyleft/fdl.html">GNU Free Documentation License</a>. Mae'n defnyddio cynnwys o'r <a href="http://cy.wikipedia.org/wiki/Ffwng">erthygl Wicipedia "Ffwng"</a>.

(Rhaid wrth gwrs newid "Ffwng" a'r URL Wikipedia'n briodol.)

Yn lle hynny cewch ddosbarthu'ch copi o Ffwng ynghyd a chopi o'r drwydded Attribution-ShareAlike 3.0 Unported (CC BY-SA 3.0) (fel yr esbonnir yn y testun) a rhestru pump o leiaf (neu bob un os bydd llai na phump) o'r prif awduron ar y dudalen deitl (neu ar frig y ddogfen).

Defnyddiau "defnydd teg" ag anghenion arbennig

golygu

Ar adegau bydd Wicipedia yn cynnwys delweddau, sain, neu ddyfyniadau tesun dan ein polisi "defnydd teg"; ar yr adegau hyn, dylid cydnabod ffynhonnell allanol y gwaith ar dudalen sy'n disgrifio'r ddelwedd neu hanes dudalen y ddelwedd, os yw hynny'n briodol. Fodd bynnag, dylid cofio nad yw'r hyn rydyn ni'n ei ystyried yn "ddefnydd teg" o'r deunydd ddim wastad yr hyn y byddai eraill yn ei ystyried yn deg. Er enghraifft, pan rydym yn nodi defnydd teg ar ddelwedd, rhaid bod yn gwbl sicr fod eich defnydd teg o'r erthygl hefyd yn wir.

Defnyddia Wicipedia beth testun dan drwydded GDFL, ond gydag amodau nad ydym ei angen ar destun gwreiddiol Wicipedia (megis Invariant Sections, Front-Cover Texts, or Back-Cover Texts). Pan ddefnyddir y defnydd hwn, fe ddylech gynnwys yr union eiriad fel y'i geir yn yr adran briodol.

Canllawiau i'r delweddau

golygu
 

Mae delweddau a ffotograffau (yn ogystal â thestun) yn cael eu rheoli gan ddeddfau hawlfraint. Mae rhywun pia nhw, oni bai eu bônt wedi eu rhoi yn y parth cyhoeddus. Dylai delweddau o'r we gael eu trwyddedu'n uniongyrchol gan ddaliwr y drwydded neu ddirprwy'r daliwr hwnnw. Ar adegau mae'r canllaw "defnydd teg" (gweler uchod) yn caniatáu defnyddio ffotograff.

Ffotograffau o "hen weithiau celf"

golygu

Ychwanegwch y canllawiau yma. Enghreifftiau: Mona Lisa, Michelangelo's David

Ffotograffau enwog

golygu

Ychwanegwch y canllawiau yma. Enghreifftiau: Hindenburg disaster, Charles Lindbergh, ayyb.

Ffotograffau gan lywodraethau

golygu

Ni all lywodraeth yr Unol Daleithiau ddim bod yn berchen ar hawlfraint; ond wedi dweud hynny, nid yw pob ffotograff a welir ar .gov neu .mil ddim yn y parth cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru'n trwyddedu ar yr un drwydded a Wicipedia: CC-BY.

Mae'r rhan fwyaf o lywodraethau eraill y byd yn berchnogion ar ffotograffau (a'r hawlfreintiau ynghlwm â nhw) e.e. mae llywodraeth Prydain Fawr yn dal yr hyn a elwir yn Crown Copyright. Hyd yn oed yn UDA, mae llywodraethau'r taleithiau eu hunain, yn aml, yn berchen ac yn cadw eu hawlfraint ar eu gweithiau. Dylid bod yn hynod ofalus, felly, gan wirio pwy yn union ydy perchennog hawlfraint lluniau a ffotograffau cyn eu copïo.

Ffotograffau o sêr y byd

golygu

Mae'r canlynol wedi'i seilio ar ganllawiau delweddau IMDB, ac yn berthnasol i ddelweddau o sêr neu enwogion yn ogystal â lluniau eraill. Mae ffotograffau cyfreithlon, fel arfer, yn dod o dair ffynhonnell:

  1. Y stiwdio, cynhyrchwyr, cyhoeddwyr neu gwmnïau eraill sy'n ymwneud â'r cyfryngau a dynnodd y lluniau gwreiddiol, gyda chaniatâd.
  2. Asiantaethau sy'n cynrychioli'r ffotograffwyr (neu'r ffotograffydd ei hun) a saethodd y llun neu'r ffotograff.
  3. Cyfraniadau ffotograffig gan y seren ei hun, neu gynrychiolwr cyfreithlon.

Hawliau ac oblygiadau Cyfranwyr

golygu

Os ydych yn cyfrannu deunyddiau i Wikipedia rydych drwy hynny yn ei drwyddedu i'r cyhoedd o dal y drwydded GFDL gyda dim adrannau sefydlog, testunau clawr blaen, neu destunau clawr cefn.

I wneud hyn, felly, mae'n rhaid i chi fod yn y sefyllfa i ganiatáu'r drwydded, sy'n golygu naill ai:

  • chi yw perchennog hawlfraint y deunydd, er enghraifft gan i chi ei greu eich hunain, neu
  • y cawsoch y deunydd o ffynhonnell sy'n caniatáu trwydded GDFL, er enghraifft gan fod y deunydd yn y parth cyhoeddus neu wedi'i gyhoeddi dan drwydded GFDL.

Yn yr achos gyntaf, chi yw perchennog trwydded y deunydd. Mae'n bosib i chi rywdro yn y dyfodol ail-drwyddedu'r deunydd neu ailgyhoeddi'r gwaith gyda thrwydded wahanol. Ond fedrwch chi ddim tynnu yn ôl y drwydded GFDL / CC-BY-SA i'r fersiwn rydych wedi ei osod yma: bydd y deunydd hwnnw yn parhau i ddod o dan drwydded GFDL am byth.

Yn yr ail achos uchod, os ydych yn ymgorffori deunydd GFDL allanol, yna mae'n rhaid i chi (fel rhan o anghenion GFDL / CC-BY-SA) gydnabod awduriaeth a darparu dolen yn ôl i'r gwaith gwreiddiol. Os yw'r gwaith hwnnw'n gosod amodau drwy adrannau mae'n rhaid dyfynnu'r adrannau hynny a'r testun gwreiddiol yn hytrach na thestun y drwydded.

Defnyddio gwaith dan hawlfraint gan eraill

golygu

Os defnyddiwch ran o waith dan hawlfraint yn unol ag amodau "defnydd derbyniol", neu os cewch ganiatâd arbennig i ddefnyddio gwaith dan hawlfraint gan ddeiliad yr hawlfraint yn unol ag amodau'n trwydded ni, rhaid nodi hynny (ynghyd ag enwau a dyddiadau). Ein perwyl yw gallu ailddosbarthu'n rhydd gymaint o ddefnydd Wicipedia ag y bo modd, felly llawer gwell gennym ddelweddau a ffeiliau sain gwreiddiol a drwyddedwyd dan y GFDL neu sydd yn eiddo i'r cyhoedd na ffeiliau'r cyfryngau dan hawlfraint a ddefnyddir yn ôl amodau defnydd derbyniol. Gweler Wikipedia:Boilerplate request for permission am lythyr ffurfiol i ofyn i ddeiliad hawlfraint drwyddedu inni ddefnyddio'i waith yn unol ag amodau'r GFDL.

Peidiwch byth â defnyddio dim sydd yn torri hawlfraint eraill. Gall hyn greu atebolrwydd cyfreithiol a niweidio'r prosiect yn ddifrifol. Ystyriwch eich hunan yn geidwad neu'n warchodwr y ffeiliau hyn.

Sylwer mai mynegiad creadigol syniadau y mae cyfraith hawlfraint yn ei rheoli, nid y syniadau'r a'r wybodaeth ei hunain. O'r herwydd, mae'n hollol gyfreithlon ddarllen erthygl mewn gwyddoniadur neu mewn gwaith arall, ei llunio o'r newydd yn eich geiriau eich hunan, ac anfon y canlyniad i Wicipedia. (Gweler llên-ladrata a defnydd derbyniol am drafodaethau ynghylch faint o ddiwygio sydd ei angen yn gyffredinol.)

Dolennu i ddeunydd sydd mewn hawlfraint

golygu

Nid yw dolennu i ddeunyddiau sydd mewn hawlfraint ddim fel arfer yn broblem, cyn belled â bod rhywun wedi gwneud ei orau i wirio nad yw'r deunydd (neu'r dudalen) dan sylw ddim yn torri hawlfraint rhywun arall. Os yw, yna ni ddylid dolennu. Byddai gwneud hyn yn sicr yn ein pardduo, a byddech o bosibl yn torri'r gyfraith.

Os dewch o hyd i dor-hawlfraint

golygu

Nid swydd pob un Wiciediwr cyffredin yw plismona pob erthygl am dor-hawlfreintiau, ond os byddwch yn amau testun, fe ddylech nodi hynny ar y dudalen sgwrsio berthnasol. Wedyn gall eraill archwilio'r mater a gweithredu os bydd raid. Y wybodaeth fwyaf defnyddiol y gellwch ei roi yw URL neu gyfeiriad arall i'r hyn sydd yn eich tyb chi yn ffynhonnell i'r testun.

Dim ond cam rybuddion fydd rhai achosion. Er enghraifft, os yr awdur gwreiddiol a gyfrannodd destun a gyhoeddwyd mewn rhywle arall yn unol ag amodau gwahanol, ni fydd hynny yn effeithio ar ei hawl i'w phostio yma yn unol ag amodau'r drwydded. Hefyd, weithiau fe gewch hyd i destun mewn mannau eraill ar y we a gopïwyd o Wicipedia. Yn y ddau achos hyn, syniad da fydd nodi ar y dudalen sgwrsio y gellir anwybyddu'r fath gam rybuddion yn y dyfodol.

Os bydd cynnwys yn dor-hawlfraint go-iawn, fe ddylid dileu'r deunydd, a nodi gwneud hynny ar y dudalen sgwrsio, ynghyd â'r ffynhonnell wreiddiol. Os ceir caniatâd yr awdur wedyn, fe ellir adfer y testun.

Os amheuir mai holl gynnwys tudalen sydd yn torri hawlfraint, fe ddylid rhestru'r dudalen ar Wikipedia:Possible copyright infringements a dodi yn lle cynnwys yr erthygl y rhybudd safonol a gewch yno. Os ymddengys ar ôl wythnos fod y dudalen yn dor-cyfraith o hyd, fe ellir ei dileu gan ddilyn y weithdrefn ar y dudalen bleidleisio.

O ran cyfranwyr sydd yn dal i bostio deunydd dan hawlfraint ar ôl cael rhybuddion priodol - gall y fath ddefnyddwyr gael eu gwahardd rhag golygu er mwyn amddiffyn y prosiect.

Gweler hefyd

golygu

Chwaneg o drafod...