Megan Angharad Hunter

awdures Gymraeg

Awdures o Gymru yw Megan Angharad Hunter (ganwyd 12 Medi 1998).

Megan Angharad Hunter
Ganwyd12 Medi 1998 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auLlyfr y Flwyddyn Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae Megan Angharad Hunter yn ferch i Judith Humphreys a Jerry Hunter[1], a chafodd ei magu yn ardal Dyffryn Nantlle[2] cyn mynd ymlaen i astudio'r Gymraeg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[2] Mae hi'n chwarae'r ffliwt.

Gwaith llenyddol

golygu

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Tu ôl i'r Awyr yn 2020. Enillodd y gyfrol prif wobr Llyfr y Flwyddyn 2021.[3]

Enillodd gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020/2021, gydag ysgrif hir ar thema Mwgwd/Mygydau dan y ffug-enw Lina[4][5]. Ysgrifennwyd y gwaith cyn Pandemig COVID-19, ond gwobrwywyd Megan Angharad Hunter yn hwyr oherwydd gohirio'r Eisteddfod. Mae'r gwaith yn ymdrin â Newid hinsawdd ac yn defnyddio arddull ôl-apocalyptaidd.[6]

Bu'n cydweithio ar brosiect Pump gyda 9 o awduron eraill.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y Lolfa (twitter)". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-08.
  2. 2.0 2.1 "Megan Angharad Hunter: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2022-01-08.
  3. "Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Megan Angharad Hunter yw Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda'i nofel tu ôl i'r awyr". Literature Wales. Cyrchwyd 2022-01-08.
  4. "Megan Angharad Hunter yw enillydd Coron yr Urdd 2020-21". Golwg360. 2021-10-18. Cyrchwyd 2022-01-22.
  5. "Megan Angharad Hunter yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 2021-10-18. Cyrchwyd 2022-01-22.
  6. "Yr argyfwng hinsawdd yn ysbrydoli gwaith buddugol Coron yr Urdd 2020-21". Golwg360. 2021-10-19. Cyrchwyd 2022-01-22.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.