Academydd a llenor Americanaidd yw Dr Jerry Hunter (ganwyd 1965), sy'n dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.

Jerry Hunter
Ganwyd13 Ionawr 1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJudith Humphreys Edit this on Wikidata
PlantMegan Angharad Hunter Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Aeth yn ôl i Cincinnati a bu yn athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Wedyn bu yn ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod nôl i Gymru.

Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.[1] Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd grŵp Cymuned.

Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd y wobr yn 2004.[1] Enillodd y nofel Gwenddydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.

Llyfryddiaeth

golygu
 
Soffestri'r Saeson gan Jerry Hunter; Tachwedd 2000

Cymraeg

golygu

Saesneg

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Dr Jerry Hunter BA MPhil PhD. Prifysgol Bangor. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.